Rhagor o brotestiadau ar strydoedd Iran yn erbyn yr arweinyddiaeth
Mae protestiadau yn erbyn arweinydd a llywodraeth Iran wedi’u cynnal mewn dinasoedd yn y wlad, gydag adeiladau a cherbydau yn cael eu rhoi ar dân yn ôl fideos sydd wedi eu cyhoeddi ar-lein.
Mae BBC Persian wedi dilysu'r fideos o dyrfaoedd mawr o brotestwyr yn gorymdeithio drwy’r brifddinas Tehran a’r ail ddinas, Mashhad, gyda chlipiau hefyd yn dangos cerflun o Oruchaf Arweinydd Iran, Ayatollah Ali Khamenei yn cael ei ddymchwel gan brotestwyr.
Mae'r Ayatollah wedi cyhuddo'r protestwyr o fod yn "ddim mwy na chriw o fandaliaid sydd eisiau plesio Donald Trump," Arlywydd America, sydd hefyd wedi rhybuddio Iran y byddai'r wlad yn cael ei "tharo'n galed" pe tai llywodraeth y wlad yn lladd protestwyr.
Dywedodd asiantaeth newyddion HRANA sy’n ymgyrchu o blaid hawliau dynol yn y wlad bod o leiaf 34 o brotestwyr – pump ohonynt yn blant – ac wyth o weithwyr diogelwch wedi cael eu lladd.
Roedd 2,270 o brotestwyr eraill wedi cael eu harestio.
Dywedodd y grŵp monitro NetBlocks bod y rhyngrwyd wedi’i diffodd “yn genedlaethol” yn y wlad.
Mae’r protestwyr yn y fideos sydd wedi eu rhannu yn galw am ddisodli'r Ayatollah.
Maen nhw hefyd i’w clywed yn llafarganu "Dyma'r frwydr olaf! Bydd Pahlavi yn dychwelyd", gan gyfeirio at y Tywysog Reza Pahlavi, mab alltud cyn arweinydd y wlad, y Shah Mohammad Reza Pahlavi.
Fe gafodd ei ddisodli yn y chwyldro Islamaidd yn 1979 ac mae Reza Pahlavi yn byw yn Washington DC yn yr Unol Daleithiau.
Roedd wedi anfon neges i’w gefnogwyr yn dweud wrthyn nhw i "fynd i'r strydoedd ac, yn unedig, gweiddi eich gofynion".
Mewn neges ar X, ychwanegodd Pahlavi fod "miliynau o Iraniaid wedi mynnu eu rhyddid heno", gan ddisgrifio'r protestwyr fel ei "gydwladwyr dewr".
