Rygbi Caerdydd yn colli yn erbyn y Stormers yn Cape Town
Mae tymor Rygbi Caerdydd ar ben ar ôl colli 44-21 yn erbyn y Stormers yn Cape Town yn rownd yr wyth olaf y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Roedd y tîm cartref yn arwain o 21-7 ar hanner amser, gyda'r cefnwr Cam Winnett yn sgorio cais yr ymwelwyr.
Fe sgoriodd Taine Basham a James Botham i ddod a Chaerdydd yn ôl i mewn i'r gêm yn ystod yr ail hanner.
Inline Tweet: https://twitter.com/S4Cchwaraeon/status/2060738637134712882?s=20
Ond gyda'r Stormers yn rheoli'r sgrym, fe aeth yr ymwelwyr i lawr i 13 ddyn gyda 14 munud yn weddill, i adael mynydd i'w ddringo.
Fe wnaethant barhau i frwydro tan y chwiban olaf ond y tîm o Dde Affrica lwyddodd i sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol y gystadleuaeth.
Llun: Asiantaeth Huw Evans