Ymchwilio i ddwyn cerrig o bont hanesyddol yng Ngheredigion

Pont Afon Mydr

Mae’r heddlu yn ymchwilio ar ôl i gerrig gael eu dwyn o bont hanesyddol yng Ngheredigion.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y cerrig capio wedi eu dwyn o bont Heol Llyswen dros Afon Mydr yn Llanerchaeron.

Fe gafodd y cerrig eu dwyn rywbryd rhwng mis Medi a Rhagfyr y llynedd, meddai’r heddlu.

"Mae trosedd treftadaeth yn cynnwys unrhyw weithgaredd anghyfreithlon sy'n niweidio asedau hanesyddol gan gynnwys adeiladau, henebion, parciau, gerddi a thirweddau," meddai’r llu.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda’r heddlu, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 26000009628.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.