COP26: Arweinwyr y byd yn dod i gytundeb ar ôl diwrnod ychwanegol o drafod

Mae arweinwyr y byd wedi dod i gytundeb ar fesurau i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn Uwchgynhadledd COP26.
Daw hyn ar ôl i'r trafod barhau am ddiwrnod ychwanegol.
Yn ôl Sky News, mae mwy na 200 o arweinwyr y byd wedi cytuno ar y mesurau, gan gynnwys "cyfaddawdu ar symud oddi wrth ddefnyddio glo."
Ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn croesawu'r ymrwymiadau sydd wedi eu gwneud yn y cytundeb.
Tydi taclo newid hinsawdd ddim yn hawdd. Rwyf yn croesawu ymrwymiadau cytundeb #COP26, ond mae mwy sydd angen a rhaid ei wneud.
— Mark Drakeford (@PrifWeinidog) November 13, 2021
Byddem yn defnyddio popeth a ddysgwyd yng Nglasgow i sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan i sicrhau dyfodol gwyrddach a thecach i bawb.
Dyma'r cytundeb mwyaf "hanesyddol" ar newid hinsawdd i gael ei basio ers cytundeb Paris yn 2015.
Darllenwch y diweddaraf yma.