Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C ar Ddydd Iau, 11 Tachwedd.
Dyma gipolwg ar rai o brif straeon y bore.
Ci a laddodd fachgen wedi ei hysbysebu fel 'bwystfil' gan gyn-berchennog
Roedd y ci laddodd fachgen 10 oed yng Nghaerffili wedi ei hysbysebu ar Facebook fel 'bwystfil' ychydig ddyddiau cyn y farwolaeth. Bu farw Jack Lis mewn tŷ i ffrind iddo yn dilyn yr ymosodiad ddydd Llun.
'Dim cinio ysgol' i ddisgyblion gyda chyfrifon cinio mewn dyled medd pennaeth
Mae ysgol yng Ngwynedd wedi rhybuddio rhieni na fydd modd i blant dderbyn cinio ysgol os yw eu cyfrifon cinio dros geiniog mewn dyled. Cafodd y rhybudd ei anfon mewn ebost gan bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, Gwynedd.
Syr Geoffrey Cox 'wedi ennill o leiaf £6m' yn ei ail swydd
Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Syr Geoffrey Cox wedi ennill o leiaf £6m am ei waith yn ei ail swydd i Ynysoedd Prydeinig y Wyryf. Mae cofnodion yn dangos iddo fethu 12 pleidlais ddiweddar yn Nhŷ'r Cyffredin pan roedd yn gwneud gwaith i’w ail swydd.
Cefnogwr pêl-droed dall yn cael 'profiad llawn' o'r gêm am y tro cyntaf
Am y tro cyntaf, bydd teclynnau gwrando arbennig ar gael i bobl sydd â nam golwg wrth i bêl-droedwyr Cymru herio Belarws nos Sadwrn. Bydd y teclynnau'n cynnig disgrifiad llawn o'r gêm yn fyw er mwyn gwneud y profiad o fynd i stadiwm i wylio'r gêm yn "agored i bawb".
Y Cadoediad: Cymru'n cofio'r rhai fu farw
Bydd miloedd o bobl ar draws Cymru yn cofio am y milwyr fu farw mewn rhyfeloedd ddydd Iau. Am 11:00 bydd munud o dawelwch i fyfyrio ar y bywydau a gollwyd ers y Rhyfel Byd Cyntaf ac ymhob rhyfel ers hynny. Mae eleni’n nodi 103 o flynyddoedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1918 pan ddaeth y cadoediad i rym.
Dilynwch yr holl benawdau diweddaraf ar Newyddion S4C drwy gydol y dydd.