Ci a laddodd fachgen wedi ei hysbysebu fel 'bwystfil' gan gyn-berchennog
11/11/2021
Roedd y ci laddodd fachgen 10 oed yng Nghaerffili wedi ei hysbysebu ar Facebook fel 'bwystfil' ychydig ddyddiau cyn y farwolaeth.
Bu farw Jack Lis mewn tŷ i ffrind iddo yn dilyn yr ymosodiad ddydd Llun.
Mewn ymgais i werthu'r ci, dywedodd y cyn-berchennog ar Facebook: "Rwy'n edrych i ail-gartrefu fy nghi 15 mis oed. Mae hi'n wych gyda phobl ond yn anffodus nid yw'n hoffi cŵn eraill o gwbl."
Mae The Sun yn adrodd fod cyn-berchenog y ci yn gwadu fod ganddo unrhyw beth i'w wneud gyda'r anifail bellach.
Cafodd y ci ei saethu saith gwaith gan heddlu arfog wedi iddo ymosod ar y bachgen.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Newyddion S4C