Tair blynedd ers cyflwyno cyfyngiad 20mya: Yw ein ffyrdd yn fwy diogel?

cyflymder PA

Ddydd Iau fe fydd hi’n union dair blynedd ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno terfyn cyflymder 20mya ar nifer o ffyrdd 30mya yng Nghymru.

Fe newidiodd y terfyn ar y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya Cymru ym mis Medi 2023. 

Bryd hynny, fe gynyddodd hyd y rhwydwaith 20mya o tua 870km i tua 13,000km, gan olygu bod nifer ein ffyrdd 30mya wedi gostwng yn sylweddol.

Felly beth mae'r ystadegau diweddaraf yn ei awgrymu am lwyddiant y newid?

Mae plaid Reform UK wedi dadlau bod y newid wedi methu â gwneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel, gan gyfeirio at ffigurau gan yr Adran Drafnidiaeth, sy’n amcangyfrif fod 1,361 o bobl wedi marw neu wedi'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru yn 2025, y nifer uchaf ers 2019.

Dywedodd Jason O’Connell, gweinidog cabinet cysgodol y blaid dros yr economi a thrafnidiaeth fod y ffigurau yn "codi cwestiynau difrifol" am y penderfyniad i "orfodi ffyrdd i lawr i 20mya."

Ond mae'r darlun yn un cymysg. 

Er bod nifer y bobl a fu farw mewn gwrthdrawiadau ar ffyrdd Cymru wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya gyda’i gilydd yn dal yn is nag yn 2022, cyn cyflwyno’r newid.

Felly, mae ffigur Reform yn cwmpasu holl ffyrdd Cymru, beth bynnag yw eu terfyn cyflymder. Nid yw, ar ei ben ei hun, yn dangos beth fu effaith y polisi 20mya.

Ers y newid rheol, mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod nifer y marwolaethau o ganlyniad i wrthdrawiadau ffyrdd wedi aros tua'r un peth ar y cyfan.

Beth mae ffigurau 2025 yn ei ddangos?

2025 yw'r flwyddyn lawn olaf o ddata sydd ar gael. 

Bu farw 91 o bobl mewn gwrthdrawiadau yn 2025, saith yn fwy na’r 84 a fu farw yn 2024.

Ond roedd y ffigur yn dal yn is na ffigur 2022, y flwyddyn lawn olaf cyn cyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya ar rai ffyrdd. 

Mae adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfanswm o 96 o farwolaethau ar gyfer 2022.

Yn gyffredinol, fe wnaeth yr heddlu gofnodi 3,004 o wrthdrawiadau yn 2025, gan arwain at 4,078 o anafiadau neu farwolaethau.

O’r rheiny, cafodd 1,116 o bobl eu hanafu’n ddifrifol ac roedd 2,871 wedi dioddef mân anafiadau.

Image
Nifer y marwolaeth ar ffyrdd Cymru

Mae hynny’n rhoi cyfanswm o 1,207 o bobl wedi marw neu wedi’u hanafu’n ddifrifol yn nata Llywodraeth Cymru.

Mae ffigur yr Adran Drafnidiaeth o 1,361 wedi’i addasu i ystyried gwahaniaethau yn y ffordd mae heddluoedd yn cofnodi difrifoldeb anafiadau. Mae’r dull newydd yn tueddu i gofnodi mwy o anafiadau fel rhai difrifol.

Felly mae’r ddau gyfanswm yn defnyddio dulliau gwahanol, ac ni ddylid eu cymharu’n uniongyrchol.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai’r ffordd fwyaf priodol o gymharu’r cyfnod cyn ac ar ôl y newid yw edrych ar ffyrdd 20mya a 30mya gyda’i gilydd, yn hytrach na chymharu ffyrdd 20mya yn unig.

Yn 2025, cafodd 1,469 o wrthdrawiadau eu cofnodi ar ffyrdd 20mya a 30mya gyda’i gilydd.

Roedd hynny 2% yn uwch na ffigur 2024, ond 22% yn is na ffigur 2022, cyn i’r terfyn newid. 

Dyma’r ail nifer isaf o wrthdrawiadau blynyddol ar y ffyrdd hynny a gofnodwyd yng Nghymru, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Image
Gwrthdrawiadau 20 a 30mya rhwng 2011 a 2025

Pam fod cyfanswm y marwolaethau wedi codi?

Nid yw pob ffordd yng Nghymru yn 20mya.

Mae data Llywodraeth Cymru yn dangos mai ar ffyrdd 60mya y cafodd y gyfran uchaf o wrthdrawiadau lle cafodd rhywun ei ladd neu ei anafu’n ddifrifol eu cofnodi yn 2025.

Roedd 37% o’r gwrthdrawiadau hynny ar ffyrdd 60mya, sef y gyfran uchaf o unrhyw derfyn cyflymder.

Image
Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd, yn ôl terfyn cyflymder ffyrdd yn 2025

Beth am y ffigurau diweddaraf?

Mae data dros dro ar gyfer Ionawr i Fawrth 2026, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, yn dangos gostyngiad pellach ar ffyrdd 20mya a 30mya gyda’i gilydd.

Cafodd 305 o wrthdrawiadau eu cofnodi ar y ffyrdd hynny, 11% yn llai nag yn yr un chwarter yn 2025 a 28% yn llai nag yn yr un chwarter yn 2023, cyn cyflwyno’r newid.

Roedd 379 o bobl wedi’u hanafu neu eu lladd yn y gwrthdrawiadau hynny, 10% yn llai nag yn yr un chwarter yn 2025 a 26% yn llai nag yn yr un chwarter yn 2023.

Mae’r ffigurau hyn yn ymwneud â chyfanswm yr anafiadau a’r marwolaethau, ac nid marwolaethau’n unig.

Mae’n bwysig hefyd nodi bod y data diweddaraf yn cwmpasu’r cyfnod hyd at ddiwedd Mawrth 2026, llai na thair blynedd ar ôl cyflwyno’r terfyn diofyn.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud bod angen o leiaf tair blynedd o ddata gwrthdrawiadau i asesu effaith y polisi’n gadarn. Mae disgwyl adroddiad gwerthuso terfynol yn 2029.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhybuddio bod angen bod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau mewn nifer cymharol fach o farwolaethau o flwyddyn i flwyddyn. 

Mae hefyd yn dweud bod llai na thair blynedd o ddata ar gael ers cyflwyno’r terfyn diofyn 20mya.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.