Newyddion S4C

Y Cadoediad: Cymru'n cofio'r rhai fu farw

11/11/2021
Castell Caerdydd

Bydd miloedd o bobl ar draws Cymru yn cofio am y milwyr fu farw mewn rhyfeloedd ddydd Iau.

Am 11:00 bydd dau funud o dawelwch i fyfyrio ar y bywydau a gollwyd ers y Rhyfel Byd Cyntaf ac ymhob rhyfel ers hynny.

Mae eleni’n nodi 103 o flynyddoedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1918 pan ddaeth y cadoediad i rym.

Cafodd tua 40,000 o bobl o Gymru eu lladd yn ystod y rhyfel rhwng 1914 a 1918.

Mae digwyddiadau wedi eu trefnu ar draws y wlad i gofio amdanynt.

Yn Wrecsam, bydd digwyddiadau i gofio Diwrnod y Cadoediad yn cael eu cynnal yn Sgwâr y Frenhines ddydd Iau.

Fel mewn sawl ardal arall, bydd seiren cyrch awyr y rhyfel yn seinio am 10:59 cyn cynnal dwy funud o dawelwch.

Mae Ceredigion yn un o’r siroedd i oleuo adeiladau’r Cyngor yn goch. Bydd yr adeiladau’n goch bob nos tan ddydd Sul y Cofio.

Mae disgyblion Ysgol Gyfun Gwynllyw wedi bod yn plannu coed derw ar dir yr ysgol er mwyn coffáu.

Bydd hefyd digwyddiadau a seremonïau yn cael eu cynnal mewn prifysgolion a cholegau ar draws y wlad.

Image
x
Maes Coffa'r Lleng Brydeinig Frenhinol. Llun: Castell Caerdydd

Yng Nghaerdydd, mae Maes Coffa'r Lleng Prydeinig Brenhinol wedi bod ar agor i’r cyhoedd yng Nghastell Caerdydd ers wythnos diwethaf.

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn bresennol i osod torch yng Ngwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Caerdydd ddydd Sul, pan fydd rhagor o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru.

Prif lun: Castell Caerdydd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.