Syr Geoffrey Cox 'wedi ennill o leiaf £6m' yn ei ail swydd
Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Syr Geoffrey Cox wedi ennill o leiaf £6m am ei waith yn ei ail swydd i Ynysoedd Prydeinig y Wyryf.
Yn ôl The Guardian, mae cofnodion yn dangos iddo fethu 12 pleidlais ddiweddar yn Nhŷ'r Cyffredin pan roedd yn gwneud gwaith i’w ail swydd.
Mae Mr Cox wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.
Mewn ymateb i’r honiadau, dywedodd Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig nad oedd y DU “yn wlad lygredig o bell”.
Ychwanegodd: “Mae’r rheolau yn nodi bod rhaid rhoi eich swydd fel AS yn gyntaf a rhaid neilltuo'ch hun yn bennaf i'ch etholwyr.
“Y peth pwysicaf yw, rhaid ymchwilio i'r rhai sy'n torri'r rheolau a dylid eu cosbi. "
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: PA