Rhybudd o 'ddim bwyd' i ddisgyblion gyda dyledion cinio mewn ysgol
Mae ysgol yng Ngwynedd wedi rhybuddio rhieni na fydd modd i blant dderbyn cinio ysgol os yw eu cyfrifon cinio dros geiniog mewn dyled.
Cafodd y rhybudd ei anfon mewn ebost gan bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, Gwynedd yn ôl North Wales Live.
Dywedodd Neil Foden yn yr ebost fod yn rhaid cymryd y fath gam gan fod llond dwrn o ddisgyblion wedi creu dyled o dros £1800 ac roedd yr ysgol wedi cael ei gorfodi i weithredu polisi llym ar y mater.
Dywed yr ebost, sydd wedi ennyn ymateb chwyrn ar gyfryngau cymdeithasol, fod cogydd yr ysgol wedi cael cyngor i beidio bwydo unrhyw blentyn o Tachwedd 22 os nad yw eu dyledion wedi eu talu neu os nad oes gan ddisgyblion ddigon o arian yn eu cyfrif i dalu yn y dyfodol.
Darllenwch stori North Wales Live yn llawn yma.
Llun: Google