Cefnogwr pêl-droed dall yn cael 'profiad llawn' o'r gêm am y tro cyntaf
Cefnogwr pêl-droed dall yn cael 'profiad llawn' o'r gêm am y tro cyntaf
Am y tro cyntaf, bydd teclynnau gwrando arbennig ar gael i bobl sydd â nam golwg wrth i bêl-droedwyr Cymru herio Belarws nos Sadwrn.
Bydd y teclynnau'n cynnig disgrifiad llawn o'r gêm yn fyw er mwyn gwneud y profiad o fynd i stadiwm i wylio'r gêm yn "agored i bawb".
Mae Cai Davies o Gastell Newydd Emlyn wedi colli 80% o'i olwg.
Fel un sydd wrth ei fodd ar bêl-droed ac gwylio Cymru'n chwarae adref yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn aml, mae profi awyrgylch gêm fyw'n gallu bod yn heriol.
'Rhwystredig'
Dywedodd Cai: "Mae’n gallu bod yn brofiad eithaf rhwystredig ar brydiau.
"Ydych, chi’n cael yr awyrgylch, chi’n cael canu’r anthem, chi’n cael canu’r caneuon ma’r ffans yn canu, ond yn amlwg, ffili gweld y gêm yn dda iawn, mae’n gallu bod yn eithaf rhwystredig."
Ond mae Cai'n gobeithio y bydd y profiad o wylio gêm nesaf Cymru nos Sadwrn yn well gyda'r dyfeisiau newydd wedi'u cyflwyno.
Dywedodd Cai: "Bydd e jyst yn rhoi lot mwy o annibyniaeth i fi a phobl arall sydd yn dioddef o nam golwg, bo' ni’n cael y profiad llawn.
“Bo' ni’n cael gwybod be sy’n digwydd, pryd ma' fe’n digwydd, ble ma' fe’n digwydd ar y cae yn hytrach na throi at dy ffrind, neu at dy frawd neu at dy rieni a gofyn pwy sy jyst wedi sgorio neu ble mae’r bêl," ychwanegodd.
“Gyda'r teclynnau 'ma ar gael nawr, ma' fe jyst yn rhoi’r profiad llawn i fi ac i bobl arall sy’n dioddef o nam golwg.”
Ond yn ôl Elin Edwards o elusen RNIB Cymru, mae angen gwneud mwy i wneud gemau chwaraeon yn agored i bawb.
Dywedodd: "Un o’r pethe ma' pobl sydd yn mynd i ddigwyddiadau byw yn dweud wrthon ni yw’r rheswm pam ma' nhw eisiau mynd yw’r awyrgylch.
"Pan ‘dan ni’n meddwl am y lleoliadau ‘dan ni’n gofyn i bobl fynd i hefyd, ma' na angen bach mwy o wybodaeth ar bobl," ychwanegodd.
"Os chi’n gwybod bo' chi eisiau mynd i’r stadiwm leol, chi ishe gwybod sut mae cyrraedd yna, pa fath o gyfleusterau sydd yna.
"Wrth wella’r wybodaeth yna, fedrwn ni neud hyn yn lot fwy hygyrch ac ar gael i lot mwy o bobl."
'Byddai sylwebaeth Cymraeg yn well'
Ond ni fydd sylwebaeth Gymraeg ar gael. Yn Saesneg yn unig mae'n cael ei gynnig ar hyn o bryd.
Mewn ymateb, dywedodd Cai: "Yn amlwg bydde sylwebaeth yn Gymraeg yn well fel siaradwr Cymraeg.
"Ond yn amlwg, os mai dim ond sylwebaeth Saesneg sydd ar gael ar hyn o bryd, ma' fe’n amlwg yn gam i’r cyfeiriad cywir," ychwanegodd.
"Ond gobeithio, yn y dyfodol agos, bydd sylwebaeth Cymraeg ar gael i gemau Cymru, ond i gemau Caerdydd ac Abertawe hefyd."
Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ma'r gwasanaeth newydd yn rhan o'i hymdrech i sicrhau bod y gêm yn agored i bawb ac y byddan nhw'n ffurfio Cymdeithas genedlaethol ar gyfer Cefnogwyr Anabl i wella'r profiad o wylio gêm fyw.
I Cai, mae e'n edrych 'mlaen at wrando ar y sylwebaeth newydd a phrofi pob eiliad o'r gêm, gan obeithio hefyd y bydd yn clywed Cymru'n ennill.