
Llofruddiaethau Clydach: Galw ar bobl sy'n cefnogi'r llofrudd i 'dderbyn ei fod yn euog'

Mae teulu pedwar unigolyn gafodd eu lladd yng Nghwm Tawe wedi galw ar bobl sy'n cefnogi'r dyn gafodd ei garcharu am y llofruddiaethau i dderbyn ei fod yn euog.
Cafodd David Morris ei ganfod yn euog o lofruddio Mandy Power, ei dwy ferch, Katie ac Emily, a’i mam, Doris Dawson, yng Nghlydach ger Abertawe ym Mehefin 1999.
Cafodd y cyn-adeiladwr ei ddedfrydu i leiafswm o 32 mlynedd mewn carchar ond bu farw yn 59 mlwydd oed ym mis Awst eleni.
Roedd ymgyrchwyr wedi cwestiynu’r dyfarniad ers blynyddoedd a galw am ryddhau Morris o'r carchar.

Fis diwethaf, dywedodd Heddlu De Cymru bod tystiolaeth fforensig gafodd ei ddarganfod mewn adolygiad o’r achos yn cysylltu Morris ag olion gwaed ar hosan o leoliad y drosedd.
Mae’r heddlu hefyd yn dweud eu bod wedi edrych ar dystiolaeth gan ddau dyst wnaeth gymryd rhan mewn rhaglen ddogfen i’r BBC, ond doedd y dystiolaeth "ddim yn tanseilio’r achos yn erbyn Morris" yn ôl y llu.
'Parhau i ddioddef'
Mewn datganiad, mae teulu Ms Power wedi cyhuddo pobl sy'n cefnogi Morris o “gamarwain i guddio’r gwir” gan apelio ar bobl i dderbyn bod David Morris yn euog.
Dywedodd y teulu: “Mae’r golled a’r galar mae ein teulu ni wedi profi, a’n parhau i ddioddef yn dorcalonnus ac mae’n effeithio cymaint o agweddau o’n bywydau.
"Ni ddylai unrhyw deulu erioed ddioddef yr hyd rydym ni wedi a’n parhau i ddioddef.”
Ychwanegodd y datganiad: “Dydy hyn heb gael ei helpu gan ymgyrchoedd cyson, protestiadau, adroddiadau anghywir yn y cyfryngau, llyfrau ffuglennol a rhaglenni teledu sydd wedi camarwain rhai aelodau o’r cyhoedd i gredu bod Morris yn ddieuog.
“Yn anffodus mae teulu a chefnogwyr Morris wedi gwrthod derbyn y dystiolaeth ddiweddara, gafodd eu darganfod gan labordy fforensig annibynnol, sef beth roedden nhw am weld.
“Rydym yn teimlo mai nawr yw’r amser iddyn nhw dderbyn mai Morris lofruddiodd ein teulu, a gadewch iddyn nhw orffwys mewn heddwch.”