Newyddion S4C

Ymchwiliad yn cysylltu llofrudd Clydach gyda thystiolaeth allweddol

18/10/2021
David Morris

Mae adolygiad o faterion yn ymwneud â dedfryd David Morris am lofruddiaethau Mandy Power, ei merched Katie ac Emily, a'i mam Doris Dawson yng Nghlydach yn 1999 wedi darganfod tystiolaeth fforensig newydd.

Dywed Heddlu'r De fod cysylltiad gwyddonol rhwng Morris a hosan sydd wedi ei chydnabod yn gyffredinol fel un a gafodd ei defnyddio yn ystod y llofruddiaethau.

Cafodd y cysylltiad ei adnabod yn ystod asesiad ymchwiliol annibynnol i amryw o faterion a gafodd eu nodi gan gynrychiolwyr cyfreithiol Morris.

Mae archwiliad gwyddonol o'r hosan wedi adnabod cysylltiad gyda Morris (neu berthynas gwrywaidd ar ochr ei dad) drwy dechnoleg nad oedd ar gael i'r tîm archwilio gwreiddiol dros 20 mlynedd yn ôl.

Nid oes modd adnabod pryd neu sut gafodd y proffil ei drosglwyddo ar yr hosan, ond mae gwyddonwyr wedi dod i'r casgliad ei bod hi'n "fwy tebygol" fod Morris wedi cyfrannu i'r proffil DNA a gafodd ei ddarganfod ar ddau ran o'r hosan.

Yn 2006, cafwyd David Morris yn euog o'r llofruddiaethau yn Llys y Goron Casnewydd, ac fe dderbyniodd ddedfryd o oes yn y carchar, wedi i'r euogfarn wreiddiol yn 2002 gael ei ddymchwel.

Cafodd yr achos ei ystyried gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yn 2018, ond ni chafodd y mater ei gyfeirio at y Llys Apêl gan nad oedd tystiolaeth newydd wedi ei adnabod.

Yn dilyn marwolaeth David Morris ar 20 Awst 2021, rhoddodd ei deulu ganiatâd i'r llu gael sampl o waed Morris er mwyn cynnal archwiliadau fforensig.

'Adolygiad gyda haen o annibyniaeth' 

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, David Thorne: "Nid oedd y penderfyniad i gynnal asesiad ymchwiliol yn cyfiawnhau ailagor neu ail-ymchwilio i'r llofruddiaethau, ac nid oedd yn dangos unrhyw ddiffyg hyder yn nedfryd Morris a'r adolygiadau achos wedi hynny.  Cafwyd Morris yn euog yn unfrydol gan reithgor ar gryfder achos yr erlyniad ac nid yw adolygiadau annibynnol gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol erioed wedi adnabod unrhyw dystiolaeth a fyddai'n datgan fod y ddedfryd yn anniogel.

"Ond, mae datblygiad technoleg fforensig wedi galluogi'r cyfle ar gyfer atebion wedi eu harwain gan y dystiolaeth i rai o'r cwestiynau sydd wedi eu codi am faterion fforensig yn yr achos hwn, ynghyd â materion eraill sydd wedi eu crybwyll gan y rhaglen ddogfen BBC Cymru 'Beyond Reasonable Doubt'.  Mae penodiad Steve Carey a'i dîm wedi sicrhau fod yr adolygiad wedi ei gynnal gyda haen o annibyniaeth."

Dywed y llu fod teuluoedd y dioddefwyr, teulu a chynrychiolwyr cyfreithiol Morris ac eraill sydd wedi eu heffeithio gan yr achos wedi eu hysbysu o ganlyniad yr adolygiad ymchwiliol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.