Dolig gartref i faban ar ôl treulio'r rhan fwyaf o'i oes mewn ysbyty
Mae bachgen bach sydd wedi bod mewn ysbyty y rhan fwyaf o'i oes yn paratoi i dreulio ei Nadolig cyntaf gartref.
Roedd Bertie Melly yn pwyso 1 pwys a 10 owns pan gafodd ei eni'n gynnar ar wythnos 24 y beichiogrwydd ym Mai 2024.
Mae e wedi cael pum llawdriniaeth yn ei fywyd byr ar ôl cael gwybod fod ganddo salwch difrifol yn effeithio ar ei goluddyn.
Ar ôl mwy na 500 diwrnod mewn ysbyty, mae Bertie bellach gartref gyda'i rieni Phoebe a Callum Melly, sy'n disgrifio eu mab fel “bod dynol rhyfeddol.”
Mae'r teulu o Bromley, Llundain yn bwriadu treulio'r Nadolig gyda'u hanwyliaid.
Cafodd Bertie ei eni yn ysbyty St Thomas' yn y ddinas.
Cafodd ei lawdriniaeth gyntaf pan roedd yn 10 niwrnod oed.
Treuliodd chwe mis cyntaf ei fywyd mewn uned gofal dwys i fabanod sydd wedi eu geni'n gynnar, cyn iddo gael ei symud i Ysbyty Plant Evelina yn Llundain.
Gwenu
Dywedodd Mr Melly, 37 oed mai Bertie yw'r “plentyn hapusaf y gallech ei gyfarfod.”
Ychwanegodd: “Gan ystyried popeth y mae wedi ei brofi - mae ei ddwylo yn llawn creithiau, a'i fol - ond mae e'n deffro yn gwenu, yn mynd i'r gwely yn gwenu.”
Yn ôl Mrs Melly, 34 oed, y cariad a'r gofal a gafodd gan feddygon a nyrsys sy'n gyfrifol am ei gymeriad llon.
“Roedd pawb yn ei garu e, a wir yn gofalu am ei les, a oedd yn hyfryd, a 'dw i'n credu bod hynny wedi ei helpu.”
Cafodd Bertie ganiatâd i adael yr ysbyty fis Tachwedd ar ôl treulio 547 diwrnod o dan ofal meddygon.
Yn ôl Mrs Melly, mae ei mab yn gwella'n rhyfeddol ar ôl dod gartref.
“Mae e'n dringo'r grisiau, mynd ar ac oddi ar y soffa, ac yn fwy hyderus wrth sefyll,” meddai.
Ac mae'r cwpl wedi mynd â Bertie i weld Siôn Corn, ond yn ôl pob sôn, roedd ganddo fwy o ddiddordeb yn yr addurniadau!