Cyhuddo dyn wedi adroddiadau o ymosodiad treisgar ym Mae Colwyn

Heddlu Gogledd

Mae dyn 47 oed wedi ei gyhuddo yn dilyn adroddiadau o ymosodiad treisgar ym Mae Colwyn.

Cafodd Davie Howard o'r Hen Golwyn ei arestio gan swyddogion wedi i'r heddlu gael gwybod am y digwyddiad yn ystod oriau man bore Sadwrn.

Cafodd ei gyhuddo o ymosod ac o fod gyda sylwedd dosbarth A yn ei feddiant.

Fe wnaeth Howard ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa.

Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon am ei wrandawiad ple ym mis Ionawr. 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.