'Gwneud gwahaniaeth': Darparu cinio Nadolig ar gyfer trigolion ardal Ysgubor Goch
'Gwneud gwahaniaeth': Darparu cinio Nadolig ar gyfer trigolion ardal Ysgubor Goch
Mae canolfan gymunedol yng Nghaernarfon wedi cael grant i ddarparu cinio Nadolig ar gyfer trigolion un o stadau tai mwyaf y dref.
Cafodd Canolfan Gymunedol Noddfa ei sefydlu ar stad dai cyngor Ysgubor Goch yn 1976 fel hwb cymunedol i'r rhai sy'n byw yno.
Erbyn hyn mae'r ganolfan yn cynnig bob math o wasanaethau, gan gynnwys cylch meithrin ac eglwys gymunedol.
Dywedodd rheolwraig y ganolfan, Mererid Mair Williams, mai bwriad y cinio Nadolig ydi cynnig cinio cynnes a chwmni.
"'Dan ni yma bob yn ail dydd Iau ond mae’r cinio ‘Dolig wrth gwrs yn ddigwyddiad 'chydig bach yn wahanol," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mi fydd 'na gracys, mi fydd 'na fins peis a 'dan ni’n mynd i gael canu carolau hefyd."
Mae Cinio Croeso Cynnes yn brosiect ar y cyd gan Eglwys Noddfa a'r ganolfan.
'Gwneud gwahaniaeth'
Ers pedair blynedd, mae’r ganolfan yn darparu cinio cynnes i drigolion y stad bob yn ail ddydd Iau yn ystod y gaeaf.
Yn ôl Ms Williams, sy'n weithiwr cymunedol, mae 25 ohonyn nhw wedi elwa o ginio arbennig i ddathlu'r Nadolig eleni.
"'Dan ni’n agored i unrhyw un o bob oed - mae’r canran helaeth yn bobl hŷn," meddai.
"Ond 'dan ni’n cael teuluoedd ifanc, mamau sydd adra efo’r plant a jyst isho cwmni a chinio cynnes.
"Mae pobl wirioneddol yn gwerthfawrogi ac mae o'n wirioneddol yn neud gwahaniaeth i bobl o bob oed."
Fe aeth ymlaen i ddweud mai'r bwriad ydi darparu cinio Nadolig eto'r flwyddyn nesaf.
"'Dan ni bendant yn gobeithio cadw Cinio Croeso Cynnes i fynd," meddai.
"Mae o’n digwydd rhwng mis Hydref a mis Ebrill fel arfer, dros y misoedd oer yna lle mae nosweithiau bach yn dywyll, a pobl yn teimlo weithiau 'chydig yn ddigalon yn ganol gaeaf.
"Mae’n dod â dipyn o gysur a 'dan ni’n wirioneddol gobeithio ar ôl i ni gael gorffwys dros yr haf fyddwn ni’n gallu dod o hyd i grantiau ar gyfer gaeaf nesaf."
Un sydd wedi elwa o’r prosiect ydi Alexander Williams o’r dref.
"Mae hwn yn dda de a 'dan ni’n sbio ymlaen i ddod yma ac i Porthi Pawb yn Pen Cei," meddai.
"Ac mae ‘na hwyl dda hefyd, dim ffraeo mawr na ffraeo bach, dim ond pawb yn sgwrsio efo’i gilydd."
Ychwanegodd: "Os fysa hwn yn cau, fysa’n golled i’r gymdeithas i gyd."
Bydd y ganolfan yn dathlu ei 50 mlwyddiant yn 2026.