Darogan mai 2025 fydd y flwyddyn boethaf ar gofnod yn y DU

Pobl yn mwynhau'r haul yn Bryste ym mis Awst

Mae'n debygol mai 2025 fydd y flwyddyn boethaf yn y Deyrnas Unedig ers i gofnodion ddechrau yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Gydag ychydig yn fwy nag wythnos o'r flwyddyn yn weddill y darogan yw mai'r tymheredd cyfartalog ym Mhrydain ar draws 2025 fydd tua 10.05C.

Fe allai Nadolig oerach effeithio rhywfaint ar y ffigwr hwn. Er hynny mae'n edrych yn debygol y bydd 2025 y flwyddyn boethaf. 2022 yw'r flwyddyn sydd wedi bod boethaf hyd yn hyn gyda thymheredd cyfartalog o 10.03C.

Mae gwyddonwyr yn glir mai newid hinsawdd sydd yn cael ei greu gan bobl sydd yn achosi'r tywydd mwy poeth.

Erbyn diwedd 2025 bydd y 10 flwyddyn gynhesaf yn y DU wedi digwydd yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Mae'r mesuriadau yn dyddio yn ôl i ddiwedd yr 1800au. 

Mae'r Swyddfa Dywydd yn edrych ar y tymhereddau tan Rhagfyr 21 ac yna yn cymryd yn ganiataol bod dyddiau olaf y flwyddyn yn dilyn yr un patrwm o safbwynt cyfartaledd tymheredd Rhagfyr. 

O achos hyn dyw hi ddim yn bosib iddyn nhw ddweud i sicrwydd mai 2025 fydd y flwyddyn boethaf ar record ond dyma'r canlyniad mwyaf tebygol. 

Haf poeth 

Daw'r darogan wedi gwanwyn ac haf cynnes. 

Roedd y gwanwyn a'r haf eleni y poethaf ym Mhrydain erioed i gael eu cofnodi.

Bob mis o fis Mawrth tan Awst roedd y tymheredd 2C yn uwch na'r tymheredd cyfartalog rhwng 1961 a 1990.

Roedd yna bedwar ton o wres wedi eu cyhoeddi ar gyfer sawl man yn y DU. 

Yn ogystal roedd y gwanwyn a'r haf yn sych gyda llai o law. 

Dywedodd Amy Doherty, gwyddonydd newid hinsawdd yn y Swyddfa Dywydd wrth y BBC bod newid hinsawdd sydd yn cael ei greu gan ddyn yn achosi "poethder ym Mhrydain fel mae yn achosi poethder ar draws y byd". 

"Yr hyn rydyn ni wedi gweld yn y 40 mlynedd ddiwethaf a'r hyn fyddwn ni yn parhau i weld yw mwy o recordiau yn cael eu torri, mwy o flynyddoedd eithafol boeth.. Felly mae'r hyn oedd yn normal 10 mlynedd yn ôl, 20 mlynedd yn ôl, yn mynd i ddod yn weddol glaear yn y dyfodol." 

Llun: Ben Birchall/PA 


 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.