'Ma' nhw fel eu plant!' Poblogrwydd y Groto Siôn Corn ar gyfer cŵn
Mae groto ar gyfer cŵn yng Nghaerdydd yn tyfu mewn poblogrwydd gyda'r creaduriaid yn cael cyfle i ymweld â Siôn Corn, y ci.
Am yr ail flwyddyn, mae modd ymweld â 'Marky - Santa Paws', sy'n ddigwyddiad unigryw, medd y trefnwyr yn Tiger Yard yn y brifddinas.
Mae'r cyfan yn digwydd yn "The Dog Market" a agorodd fis Ebrill 2024.
Nod y busnes yw ei gwneud hi'n haws i berchnogion cŵn ddarganfod brandiau dibynadwy o ansawdd uchel a hybu busnesau bychain.
Cymuned 'arbennig'
Dywedodd trefnydd y digwyddiad, Lauren o Gaerdydd wrth Newyddion S4C bod y farchnad gŵn wedi adeiladu cymuned arbennig o berchnogion siopau cynnyrch cŵn a chwsmeriaid.
"I fi, y gymuned hon sydd wrth galon yr hyn yr ydym ni'n ei wneud.
'"Gyda'r ffordd y mae cŵn yn cyfoethogi ein bywydau, roedden ni eisiau creu lle ar gyfer y cysylltiad anhygoel hwnnw rhwng pobl a chŵn.'
Dechreuodd fel syniad ei ffrind a oedd yn hyfforddi cŵn, ac a helpodd Lauren pan roedd yn mynd trwy gyfnod anodd.
'Hollol boncyrs'
"Rydyn ni yn hoffi dod â pherchnogion siopau at ei gilydd ond hefyd pethau i rieni cŵn fel yn ein marchnadoedd arferol - ond beth sydd yn unigryw i'n marchnad Nadolig yw ein digwyddiad Santa Paws,' meddai Laura.
"Yn syml, mae'n debyg iawn i groto Sîon Corn arferol, ond y gwahaniaeth - mae Siôn Corn yn gi.
"Yn ystod y digwyddiad mae cyfle i'ch cŵn, a chi eich hunain, i gwrdd â Marky, masgot y farchnad, fel Siôn Corn lle mae e yn roi anrhegion i'r cŵn a llythyrau gan Siôn Corn ei hun.
"Mae'n hollol boncyrs - ond wrth gwrs mae pobl yn prynu tocynnau, ma' nhw fel eu plant!
Ac o fewn chwinciad, fe werthwyd yr holl docynnau ar gyfer y digwyddiad eleni .
"Mae'n enfawr, mae wedi gwerthu allan bob tro dros y ddwy flynedd ddiwethaf - mae nhw wedi rhedeg allan o fewn cwpwl o oriau ers iddyn nhw fynd ar werth," meddai.
'Mae'r cŵn yn cael teganau reit neis, a llythyrau gan Siôn Corn - mae jest yn brofiad Nadoligaidd i gŵn, chi ddim yn ei weld fel arfer.'
Cynnwys pawb
I Laura a'r tîm yn y farchnad, mae darparu gwasanaeth i berchnogion cŵn yn bwysig iawn.
"Mae gen i French, ac mae o fel fy machgen bach - fy mab i ydy o. Dwi'n credu bod sawl person yn y gymuned sydd yn teimlo fel hyn. Mae rhai ohonon ni heb blant ond ein cŵn yw ein plant, ti'n gwybod - felly mae'n wych i gael rhywbeth ar gyfer rhieni cŵn sydd yn gwneud i ni deimlo yn gynwysiedig.
"Mae'n foment rili hyfryd wrth weld pa mor hapus mae rhieni y cŵn, yn gweld eu ci yn cwrdd â chi enfawr wedi gwisgo fel Siôn Corn."