Newyddion S4C

‘Angen mwy o staff’ i roi brechlynnau atgyfnerthu Covid-19

07/11/2021
Brechlyn Covid-19

Mae bwrdd iechyd yn y gogledd wedi dweud eu bod angen mwy o staff i ddosbarthu trydydd dos o frechlyn Covid-19.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn anelu i gynnig trydydd dos, neu'r brechlyn atgyfnerthu Covid-19 i bron pawb sy’n gymwys erbyn canol mis Rhagfyr. 

Hyd yma mae 492,433 o bobl yng Nghymru wedi derbyn brechlyn atgyfnerthu yng Nghymru ers dechrau’r cynllun yng nghanol mis Medi – gyda bron i 1.8m o’r boblogaeth yn gymwys. 

Oedolion dros 50, gweithwyr iechyd rheng flaen a gwasanaethau cymdeithasol, a phobl sydd â chyflyrau iechyd sy’n cael blaenoriaeth ar hyn o bryd.

Covid-19: Cyflymu’r broses o frechu plant 12 i 15 oed yng Nghymru

Ym mis Hydref, bu’n rhaid i Fwrdd Iechyd Hywel Dda ohirio sesiynau cerdded i mewn ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu yn sgil galw ysgubol. 

Roedd y bwrdd iechyd wedi gwahodd pobl i ymweld â’u canolfan frechu agosaf, ond bu'n rhaid gohirio'r sesiynau ar ôl i fwy na’r disgwyl droi fyny, gyda hyd at 200 o bobl yn aros am dros chwe awr mewn un canolfan yn Llanelli. 

Nawr, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn apelio ar bobl i ystyried swydd fel staff brechu yn y gogledd. 

Mae’r bwrdd wedi dechrau cynnig swyddi parhaol a dros dro fel rhan o’r ymgyrch recriwtio.

Dywedodd Graham Rustom, Rheolwr Brechiadau Covid-19 ar ran y bwrdd: “Po fwyaf o staff ychwanegol y gallwn recriwtio, y cyflymaf y gallwn gael y pigiadau atgyfnerthu i freichiau pobl yn ein grwpiau blaenoriaeth.” 

Daw’r neges gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wrth i gyfraddau coronafeirws yng Nghymru barhau ar lefel uchel. 

Fe gyrhaeddodd y gyfradd achosion fesul 100,000 o bobl dros y saith diwrnod diwethaf y lefel uchaf erioed rhwng 14 a 20 Hydref, gyda 730.7 achos i bob 100,000 o bobl. 

Serch hynny, mae'r gyfradd wedi gostwng yn raddol ers 20 Hydref. 

Erbyn hyn, mae’r gyfradd wedi gostwng i 546.8 gyda 2,583 o achosion yn cael eu cadarnhau yn y 24 awr hyd at 7 Hydref.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.