Covid-19: Cyflymu’r broses o frechu plant 12 i 15 oed yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ddydd Llun y bydd plant rhwng 12 i 15 oed ar draws Cymru wedi cael cynnig brechiad Covid-19 erbyn diwedd hanner tymor mis Hydref.
Bydd pob plentyn o’r grŵp oedran dan sylw yn cael eu gwahodd drwy lythyr i gael un dos o frechlyn Pfizer.
Fe fydd rhan fwyaf yn derbyn y brechlyn mewn canolfannau brechu torfol, ond mewn rhai ardaloedd, bydd ysgolion yn cael eu defnyddio hefyd.
Daw’r penderfyniad yn dilyn argymhellion gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a Phrif Swyddogion Meddygol y DU ym mis Medi.
Mae rhai o’r plant sydd rhwng 12 i 15 mlwydd oed, sydd yn fwyaf agored i niwed yng Nghymru, eisoes wedi dechrau derbyn y brechlyn.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, mai brechlynnau oedd y “ffordd orau i ddiogelu rhag y feirws”.
“Mae rhai astudiaethau wedi dangos bod lle i gredu bod 1 o bob 7 plentyn sydd wedi’i heintio â’r feirws yn datblygu Covid Hir,” dywedodd.
“Mae’n bwysig bod y plentyn a’r rhiant yn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ac rydyn ni wedi darparu adnoddau i blant a phobl ifanc a’u rhieni i’w cynorthwyo.
“Rwy’n annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod y brechlyn gyda’i gilydd.”
Ychwanegodd Dr Gill Richardson, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol ar gyfer Brechlynnau: “Rydyn ni wedi gweld y manteision a geir pan fydd cynifer o bobl â phosib’ wedi’u brechu.
“Ar ôl ystyried y dystiolaeth yn ofalus, fe wnaeth pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU argymell brechu plant iach, 12 i 15 mlwydd oed, ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr megis Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.
“Daethant i’r casgliad bod y manteision iechyd a nodwyd gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), ynghyd â’r manteision ychwanegol o ran lai o darfu ar addysg a lleihau’r effeithiau ar iechyd meddwl, yn golygu y dylid cynnig brechiadau.
“Bydd plant a’u teuluoedd yn cael gwybodaeth gefndirol, yn ogystal â’u gwahoddiad drwy lythyr, fel y gallen nhw benderfynu ar sail tystiolaeth a ydyn nhw am gael y brechlyn ai peidio.”