
Cymru ‘ar ei hôl hi’ gyda phwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan
Cymru sydd â’r nifer lleiaf o bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan yn y Deyrnas Unedig, yn dilyn datganiad newydd gan y Ceidwadwyr Cymreig.
Yn ôl y blaid, mae Cymru “ar ei hôl hi” gydag ychydig yn llai na 1,000 o bwyntiau gwefru ar hyd y wlad.
Mae hyn o’i gymharu â thua 20,000 yn Lloegr a 2,500 yn yr Alban.
Daw’r data sydd wedi ei ryddhau ddydd Sadwrn gan Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU sy’n dangos bod gan Gymru 994 pwynt gwefru.
Ddiwedd mis Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu cynllun newydd ar gyfer cerbydau trydan fel rhan o’u hymrwymiad i gyrraedd targed sero net erbyn 2050.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi cwestiynu pa mor uchelgeisiol yw’r cynllun.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r data’n dangos mai dim ond tri awdurdod lleol yng Nghymru sydd â mwy na deg pwynt gwefru cyflym.
Dim ond un pwynt gwefru cyflym sydd yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Thorfaen, yn ôl y blaid.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn buddsoddi £7m eleni i ddarparu mwy na 400 o wefrwyr cerbydau trydan, ar ben y 1,000 sy’n bodoli eisoes.
Ond, yn ôl Gweinidog Cysgodol dros Drafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar, dydy hynny “ddim yn ddigon uchelgeisiol.”
'Cynllun pathetig'
Dywedodd: “Mae angen i bobl ddechrau edrych ar ffyrdd gwyrddach o deithio, ond dydw i ddim yn siŵr faint o bobl bydd yn teimlo’n barod i brynu car trydan pan fo cyn lleied o fannau ar draws y wlad i’w gwefru.
“Ry’n ni angen oleiaf 20,000 o bwyntiau gwefru trydan os ydyn ni’n mynd i annog pobl i ymuno â’r chwyldro gwyrdd, ond gyda chynllun diweddaraf gwefru ceir trydan pathetig Llafur sy’n ymrwymo i adeiladu tua 50 o bwyntiau cyflym dros y pedair blynedd nesaf, mae ffordd bell gyda ni i fynd.
Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gwefrydd cyhoeddus ar gyfer pob chwe cherbyd trydan ar gyfartaledd yng Nghymru ond rydyn ni am sicrhau bod cyflymder cyflwyno gwefryddion yn cyfateb i ddefnydd cerbydau trydan yng Nghymru.
“Bydd ein cynllun gwefru EV a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn sicrhau bod holl ddefnyddwyr ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallant gael mynediad at seilwaith gwefru cerbydau trydan pryd a ble mae ei angen arnynt erbyn 2025."