Newyddion S4C

Cwestiynu pa mor uchelgeisiol yw cynllun ceir trydan y llywodraeth

26/10/2021

Cwestiynu pa mor uchelgeisiol yw cynllun ceir trydan y llywodraeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i greu pwynt gwefru ar gyfer ceir trydan ymhob 20 milltir erbyn 2025. 

Mae'r cyhoeddiad yn "gam mawr" ymlaen, yn ôl ymgyrchwyr ceir trydan.

Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cwestiynu pa mor uchelgeisiol yw'r cynllun ac yn dadlau nad yw'n ddigon manwl. 

Bydd y Cynllun Gweithredu ar Wefru Cerbydau Trydan yn ceisio cynyddu’r nifer o bwyntiau gwefru cyhoeddus yng Nghymru – sydd dros 1,000 ar hyn o bryd.

'Amhosibl'

Yn ôl Dr Neil Lewis, Rheolwr Ynni Sir Gâr ac aelod o fwrdd TrydaNi sy'n gweithio dros gael mwy o bwyntiau gwefru yng Nghymru, mae'r cynllun yn "gam mawr".

Dywedodd: "Mae'n gam mawr i'r lle iawn.

"Mae’n amhosibl mewn rhai llefydd i fyw gyda ceir trydan achos sdim digon o infrastructure pwyntiau gwefru mewn lle", ychwanegodd.

Dywedodd Dr Lewis nad oes digon o bwyntiau ar draws Cymru:

"Ma un neu ddau yng nghanolbarth Cymru ond dyw un ar y tro ddim yn ddigon da rili, so chi’n gallu dibynnu ar jyst un pwynt gwefru i neud yn siwr bo chi’n cyrraedd rhywle.

"I gyrraedd Caerdydd o’r Gogledd mae’n rhaid mynd trwy Lloegr i fod yn saff. 

"Ma hwn [y cynllun newydd] yn rhoi hyder i bobl bo nhw’n gallu gyrru ceir trydan heb fecso gormod".

‘Gweld sut aiff hi’

Mae’r newid yn golygu bod rhai busnesau yn ystyried eu hopsiynau ar gyfer y dyfodol.

Mae Sian Jones yn bartner ym musnes Brian Llewelyn a’i Ferched yn Eglwyswrw, Sir Benfro.

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod wedi ystyried cyflwyno pwynt gwefru yn yr orsaf betrol, ond bod nifer o ffactorau i’w hystyried.

Dywedodd Ms Jones: “Wel, dwi wedi bod yn meddwl ambwti fe, dwi wedi bod yn meddwl ble odw i yn lleoli fe.

“A wedyn peth arall, amser ma’ dyn yn chargo lan y car, mae’n cymryd gwmynt yn fwy na llanw fe lan gyda petrol so ma’n rhaid meddwl am ble ma’r bobl ‘ma yn mynd i hongian ambwti’r lle".

Ychwanegodd y byddai tipyn o gost wrth osod y mannau gwefru ond eu bod wedi derbyn cynigion gan gwmnïau i gynnal y gwaith.

“Bydde rhaid fi dod mewn â three phase i ‘neud y pŵer hefyd.

“Ni wedi cael pobl wedi cynnig rhentu’r tir wrtho ni a rhoi popeth yn ei le ond ma’n rhaid cael gweld beth sy’ yn balanso mas i ni fel busnes a busnes unigolion a cael gweld shwt eith hi nawr yn y pum mlynedd diwetha’ ma’ nawr gyda ceir electrig".

Image
Natasha Asghar
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn honni fod gan Gymru 3.8% o holl bwyntiau gwefru y DU. (Llun: Senedd TV) 

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad ddydd Mawrth, dywedodd Aelod Senedd Cymru dros y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar MS fod y cynllun yn "dangos diffyg manylion sylweddol ac rwy'n ofni nad yw mor uchelgeisiol ac y gallai fod". 

"Does 'na ddim gair o gwbl am faint mae'r cynllun yn mynd ei gostio, ac ydy creu dim ond 80 pwynt gwefru ar brif ffyrdd Cymru mor uchelgeisiol, yn enwedig gan ein bod angen oddeutu 20,000 ar draws y wlad fel y gellid pobl ymuno â'r chwyldro ceir gwyrdd?

Ychwanegodd bod angen llawer mwy o weithredu gan y llywodraeth os ydy Cymru o ddifri am geir trydan. 

‘Angen gwneud mwy’

Wrth amlinellu’r cynlluniau, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, gyda chyfrifoldeb am drafnidiaeth, Lee Waters, fod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Dywedodd Mr Waters: "Mae angen i ni wneud mwy yn y deng mlynedd nesaf nag yr ydym wedi'i wneud yn y deng mlynedd ar hugain diwethaf os ydym am gyrraedd ein targed sero net erbyn 2050.

“Bydd troi oddi wrth ein dibyniaeth ar geir ac annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol, ond ar gyfer y teithiau car hanfodol hynny, mae newid i gerbyd trydan yn ffordd arall y gallwn wneud gwahaniaeth.

"Mae'r cynllun rwyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i ddarparu seilwaith cerbydau trydan o ansawdd uchel ledled Cymru.

“Gan weithio gyda'r sector preifat mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru ledled y wlad, i roi hyder i yrwyr newid wrth i'r galw am gerbydau trydan gynyddu”.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau i brosiectau sy’n dymuno datblygu adnoddau gwefru.

Yn ddiweddar, cafodd Cyngor Sir Gâr grant o £350,000 i ddatblygu cyfleusterau gwefru aml-bwynt ger Cross Hands, adnodd a fydd yn galluogi mwy nag un cerbyd electrig i gael ei wefru ar yr un adeg.

Bydd cylch nesaf y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel yn agor ar gyfer ceisiadau ym mis Rhagfyr 2021.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.