Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Mae'n fore dydd Iau ac yn gyfle i daro golwg ar y prif straeon ar ein gwasanaeth.
Nyrsys yng Nghymru i ystyried streic i godi cyflogau
Bydd aelodau Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru yn dechrau pleidleisio ddydd Iau dros gael cyfnod o weithredu diwydiannol i godi cyflogau gweithwyr.
Daw hyn ar ôl i 94% o weithwyr iechyd yng Nghymru ddweud bod codiad cyflog o 3% yn “annerbyniol”.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod eisiau buddsoddi yn y gweithlu ond bod angen rhoi arian tuag at wasanaethau y Gwasanaeth Iechyd hefyd.
Angen i gynllun newydd i wella lles anifeiliaid ‘fynd ymhellach’ yn ôl elusen
Mae elusen sy’n gweithio er lles anifeiliaid wedi dweud bod angen i gynllun newydd gan Lywodraeth Cymru “fynd ymhellach”.
Mae'r RSPCA yn croesawu cynllun y llywodraeth ar gyfer lles anifeiliaid yn ystod y pum mlynedd nesaf, ond maen nhw'n gobeithio gweld "mwy o welliannau".
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths ei bod yn “falch iawn o'r hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni yng Nghymru o ran lles anifeiliaid” ond bod “mwy i'w wneud".
COP26: Tsieina yn taro 'nôl yn erbyn beirniadaeth Biden - Al Jazeera
Mae Tsieina wedi taro 'nôl yn erbyn Arlywydd yr UDA Joe Biden wedi iddo feirniadu penderfyniad yr Arlywydd Xi Jinping i beidio â mynychu uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26.
Nid yw'r Arlywydd Xi wedi teithio’r tu allan i Tsieina ers dechrau pandemig Covid-19 a phenderfynodd i beidio ymuno ag arweinwyr eraill gwledydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer y gynhadledd yn Glasgow.
Brechlyn HPV yn achub miloedd rhag canser ceg y groth - The Guardian
Mae cynllun brechu'r GIG i atal canser ceg y groth wedi achub miloedd o fenywod rhag dioddef y cyflwr, yn ôl ymchwiliad newydd.
Mae arbenigwyr wedi cyhoeddi tystiolaeth gychwynnol o'r cynllun brechu yn erbyn yr human papillomavirus (HPV) a dechreuodd yn 2008.
Unedau ecogyfeillgar i roi cartref i bobl fregus yng Ngwynedd
Mae cynllun i ddatblygu podiau ecogyfeillgar i roi cartref i bobl fregus yng Ngwynedd ar fin cael ei gwblhau.
Daw hyn wrth i ardal Gwynedd weld “y nifer uchaf erioed” o bobl mewn llety dros dro yn y sir.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.