Nyrsys yng Nghymru i ystyried streic i godi cyflogau
Bydd aelodau Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru yn dechrau pleidleisio ddydd Iau dros gael cyfnod o weithredu diwydiannol i godi cyflogau gweithwyr.
Daw hyn ar ôl i 94% o weithwyr iechyd yng Nghymru ddweud bod codiad cyflog o 3% yn “annerbyniol”.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn cael codiad o 3% i’w cyflogau.
Mae codiad cyflog o'r un maint wedi ei gynnig gan Lywodraeth y DU i staff y GIG yn Lloegr.
Yn ôl Coleg Brenhinol y Nyrsys, dylai’r ffigwr fod yn 12.5% o gynnydd er mwyn bod yn gyflog “teg.”
Mae’r Coleg yn nodi mai’r dewis olaf fyddai gweithredu diwydiannol, ond eu bod yn “glir bod yr argyfwng staffio yn y GIG yn achosi risg annerbyniol i gleifion a staff".
Yn ôl Cadeirydd Bwrdd Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru, Richard Jones MBE mae “dicter a rhwystredigaeth aelodau yn glir".
Ychwanegodd: “Mae staff nyrsio yn haeddu codiad cyflog teg.
“Mae’r codiad cyflog o 3% sydd wedi ei gynnig gan Lywodraeth Cymru yn is na’r lefel o chwyddiant sydd i’w ddisgwyl a chostau byw yng Nghymru.
“Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys yn credu bod hyn yn sarhad.”
'Gwerthfawrogi eu gwaith'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod eisiau buddsoddi yn y gweithlu ond bod angen rhoi arian tuag at wasanaethau y Gwasanaeth Iechyd hefyd.
Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi Dydd Iau fe fydd £170m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i'r GIG pob blwyddyn er mwyn gwella gwasanaethau cataract, canser a strôc.
Ond dyw'r arian ychwanegol ddim yn cynnwys cynnydd yn nhal i nyrsys a bydd y bleidlais yn gofyn i aelodau cymwys Coleg Brenhinol y Nyrsys os ydyn nhw’n dymuno gweld gweithredu diwydiannol trwy streicio.
Os nad ydynt yn dymuno streicio, bydd modd i aelodau ddweud os y byddent yn fodlon cefnogi eu cydweithwyr i wneud hynny.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn “gobeithio y bydd gweithwyr y GIG yn deall cymaint rydym yn gwerthfawrogi eu gwaith a popeth maen nhw wedi'i wneud".
“Rydym wedi derbyn argymhellion y corff adolygu cyflogau annibynnol yn llawn,” ychwanegodd.
“Er ei bod yn siomedig bod y Pwyllgor Datblygu Cenedlaethol yn mynd ymlaen i bleidlais, rydym wedi datblygu pecyn o welliannau o fewn y cyllid sydd ar gael sy'n canolbwyntio ar gefnogi ein staff ar y cyflogau isaf.
"Er ein bod am fuddsoddi yn ein gweithlu, mae angen i ni hefyd fuddsoddi mewn darparu gwasanaethau hanfodol y GIG."
Bydd y bleidlais yn para rhwng 4 Tachwedd a 30 Tachwedd.
Llun: Coleg Brenhinol y Nyrsys