Newyddion S4C

Codiad cyflog 3% i nyrsys yn 'siomedigaeth enfawr'

22/07/2021

Codiad cyflog 3% i nyrsys yn 'siomedigaeth enfawr'

Mae codiad cyflog o 3% i holl staff y Gwasanaeth Iechyd wedi cael ei ddisgrifio fel "siomedigaeth enfawr". 

Cafodd y codiad ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher.

Daw hyn wedi i’r Gweinidog Iechyd “dderbyn argymhellion y cyrff adolygu cyflogau yn llawn” ddydd Mercher.

Mae codiad cyflog o'r un maint wedi ei gynnig gan Lywodraeth y DU i staff y GIG yn Lloegr.

Ond mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi beirniadu'r ffigwr, gan ddweud ei fod yn rhy isel.

Mae Leanne Lewis, nyrs yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn "anhapus" gyda'r codiad cyflog. 

"Ar ôl gweithio shwt gymaint, i cael 3% ma fe'n disappointment enfawr," meddai. 

"I'r nyrsys a'r pobl sy di bod yn gweithio yn y gofal iechyd, so ni wedi cael increase mewn deg mlynedd.

"Ni'n colli arian, mae gofyn am tipyn bach mwy yn y peth iawn i 'neud.

"A dwi'n credu byddai cymunedau a cleifion yn cefnogi hyn."

Bydd y codiad cyflog yn dod i rym yn ôl-weithredol o fis Ebrill 2021.

Dyweodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: “Unwaith eto, hoffwn ddiolch i staff GIG Cymru am eu hymdrechion eithriadol yn ystod y pandemig hwn. Mae llawer o’r staff wedi gweithio oriau hir iawn dan bwysau aruthrol.

“Mae’r codiad cyflog hwn yn cydnabod ymroddiad ac ymrwymiad staff y GIG a’r cyfraniad enfawr y maent wedi’i wneud. Mae hefyd yn cydnabod faint y mae cymunedau Cymru’n eu gwerthfawrogi.

“Ar gyfer staff ar y cyflog isaf, mae hyn yn golygu ein bod yn talu’n fwy na’r argymhelliad Cyflog Byw o £9.50 yr awr, gan ddangos ein hymrwymiad i sicrhau fod GIG Cymru’n gyflogwr Cyflog Byw.”

Dywed Llywodraeth Cymru nad yw Trysorlys y DU wedi darparu “unrhyw wybodaeth hyd yma” ynglŷn ag a fydd unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i dalu costau’r codiad cyflog ar ben y cap o 1% a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Serch hynny, mae’r Gweinidog Iechyd yn dweud y bydd cyllidebau cyfredol yn cael eu blaenoriaethu i “alluogi gweithredu’r fargen hon.”

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol Ceidwadwyr Cymru, Russell George MS: “Rydw i’n falch iawn o weld y bydd staff y GIG yng Nghymru yn derbyn codiad cyflog o 3%, er mwyn cydnabod eu hymdrechion rhyfeddol yn ystod y cyfnod mwyaf heriol yn hanes ein gwasanaeth iechyd.

"Er gwaethaf yr heriau economaidd ac oedi cyflogau ehangach yn y sector cyhoeddus, roedd Ceidwadwyr Cymru yn glir y dylem fod yn gwobrwyo ein gweithwyr a'n gofalwyr ymroddedig i'r GIG.

"Mae'n holl bwysig nawr fod gweinidogion Llafur yn helpu adferiad y GIG drwy ganolbwyntio ar fynd i'r afael â rhestrau aros."

'Fawr o effaith'

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu'r cynnydd.

Dywedodd Jane Dodds AS, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: “Mae staff ein GIG, yn debyg i nifer eraill, wedi mynd uwchlaw i gadw Cymru’n ddiogel yn ystod y pandemig.

“Gyda chostau byw wedi’i ddarogan i gynyddu gan yr un canran y flwyddyn yma ni fydd cynnig y llywodraeth mynd i gael fawr o effaith ar nifer o weithwyr y GIG.

“Rydym yn galw am driniaeth well am staff ein GIG.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn well dros staff ein GIG, ac i gynnal adolygiad cyflog ar gyfer holl weithwyr y sector cyhoeddus sydd wedi cadw Cymru’n ddiogel trwy gydol y pandemig.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.