Newyddion S4C

Angen i gynllun newydd i wella lles anifeiliaid ‘fynd ymhellach’ yn ôl elusen

moch

Mae elusen sy’n gweithio er lles anifeiliaid wedi dweud bod angen i gynllun newydd gan Lywodraeth Cymru “fynd ymhellach”.

Mae'r RSPCA yn croesawu cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer lles anifeiliaid yn ystod y pum mlynedd nesaf, ond maen nhw'n gobeithio gweld "mwy o welliannau".

Yn ôl y Llywodraeth, bydd y Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Iau yn “adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes ers datganoli pwerau lles anifeiliaid yn 2006.”

Bydd rhaid i bob lladd-dy yng Nghymru gael teledu cylch cyfyng a bydd y defnydd o gewyll yn cael eu cyfyngu ar gyfer anifeiliaid sy’n cael eu ffermio fel rhan o’r cynllun newydd.

Mae’r cynllun yn cynnwys:

  • Datblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, gan gyflwyno cofrestr ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, bridwyr masnachol anifeiliaid anwes neu anifeiliaid ar gyfer saethu, ac arddangosfeydd anifeiliaid;
  • Gwella’r cymwysterau i arolygwyr lles anifeiliaid i godi eu statws proffesiynol;
  • Gwneud teledu cylch cyfyng yn ofynnol ym mhob lladd-dy;
  • Cyfyngu ar ddefnyddio cewyll ar gyfer anifeiliaid a ffermir.

Mae’r cynllun hefyd yn disgrifio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â llywodraethau eraill y DU i hyrwyddo'r agenda lles anifeiliaid.

‘Angen mynd ymhellach’

Mae elusen RSPCA wedi croesawu’r cynllun gan ddweud bod “angen ers amser maith am fframwaith rheoleiddio er mwyn i’r sector lles anifeiliaid fynd ymhellach.”

Dywedodd Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus yr elusen David Bowles: “Tra bod llawer i’w groesawu yn y cynllun hwn, ry’n ni’n gobeithio y bydd y pum mlynedd nesaf yn dod â hyd yn oed mwy o welliannau ar gyfer anifeiliaid a’u lles.

“Mae lles anifeiliaid mewn man argyfyngus - gyda chytundebau masnach yn cael eu negydu, taliadau ôl-Brexit i ffermydd yn cael eu hystyried ac effaith pandemig Covid-19 yn rhoi straen mawr ar ein sector.”

Ychwanegodd Mr Bowles mai rhai o’r pethau sydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried ymhellach yw sicrhau bod lles anifeiliaid yn cael ei gynnwys yng nghwricwlwm newydd Cymru, sicrhau triniaeth deg i berchnogion anifeiliaid anwes yn y sector rhentu breifat a “hyd yn oed gwahardd yr hawl i roi anifail anwes fel gwobr.”

'Uchelgeisiol'

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths ei bod yn “falch iawn o'r hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni yng Nghymru o ran lles anifeiliaid” ond bod “mwy i'w wneud.”

Dywedodd: “Byddwn yn gweithio gyda'r holl bartneriaid i fwrw ymlaen â'n hymrwymiadau. 

“Mae hyn yn cynnwys hybu diogelwch anifeiliaid anwes ymhellach drwy edrych ar gofrestr ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, gwella'r proffesiwn gwerthfawr sy’n arolygu lles anifeiliaid drwy wella’r cymwysterau, ac edrych ar sut y gallwn leihau'r defnydd o gewyll ar gyfer anifeiliaid a ffermir.

“Rwyf hefyd yn falch o gadarnhau y byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob lladd-dy yng Nghymru gael teledu cylch cyfyng – tra bod y mwyafrif llethol eisoes yn ei ddefnyddio byddwn yn sicrhau bod hyn yn wir i bawb.

“Mae sicrhau bywyd o ansawdd da i bob anifail yn uchelgeisiol, ond dyna y mae'n rhaid i ni anelu tuag ato.”

Llun: Llywodraeth Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.