Tai ecogyfeillgar i roi cartref i bobl fregus yng Ngwynedd
Mae cynllun i ddatblygu podiau ecogyfeillgar i roi cartref i bobl fregus yng Ngwynedd ar fin cael ei gwblhau.
Daw hyn wrth i ardal Gwynedd weld “y nifer uchaf erioed” o bobl mewn llety dros dro yn y sir.
Bydd yr unedau - sydd wedi eu lleoli ar hen safle Ysgol Pendalar yn Segontium, Caernarfon - yn cael eu cynnig i unigolion bregus o’r gymuned leol.
Yn ôl y Cyngor, bydd yr unigolion yn derbyn cefnogaeth i fedru datblygu’r sgiliau er mwyn gallu byw yn annibynnol cyn symud ymlaen i denantiaethau eu hunain.
Dywedodd Carys Fon Williams, Pennaeth Adran Tai ac Eiddo’r Cyngor: “Mae yna nifer o unigolion Gwynedd ar hyn o bryd yn byw mewn llety dros dro – y niferoedd uchaf yr ydym erioed wedi eu gweld yma yng Ngwynedd.
“Mae’r cynllun newydd yma yn cychwyn ni ar y daith o leoli’r unigolion hyn a rhoi’r cymorth iddyn nhw ar gyfer cynnal tenantiaethau i’r dyfodol.”
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae’r podiau ecogyfeillgar yn defnyddio 90% yn llai o ynni na chartrefi traddodiadol.
Mae’r dyluniad yn seiliedig ar egwyddorion ‘passivhaus’ a fydd yn golygu y bydd yr adeiladau’n creu eu hynni eu hunain, gan gadw costau’n isel i denantiaid.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd: “Dwi’n falch iawn o fod yn rhan o ddatblygiad y tai newydd yma.
“Hwn ydi cam cyntaf ein gweledigaeth i adeiladu tai modern, gwyrdd, diogel a fforddiadwy i gartrefu pobl ni yn eu cymunedau.
“Rydym yn wynebu argyfwng tai, ac rydym ni am wneud popeth o fewn ein gallu i gynyddu’r cyflenwad tai a chyfleoedd i bobl fyw yn eu cymunedau.
“Mae effaith yr argyfwng i’w weld mewn cymunedau ar draws Gwynedd ond rydan ni o ddifri am wneud gwahaniaeth er budd pobl y sir.”
Daw’r datblygiadau newydd fel rhan o gynllun £77m Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd a gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2020.
Y gobaith gan Gyngor Gwynedd yw y bydd y tenantiaid cyntaf yn medru symud i’r unedau newydd cyn y Nadolig.