Brechlyn HPV yn achub miloedd rhag canser ceg y groth
04/11/2021
Mae cynllun brechu'r GIG i atal canser ceg y groth wedi achub miloedd o fenywod rhag dioddef y cyflwr, yn ôl ymchwiliad newydd.
Mae arbenigwyr wedi cyhoeddi tystiolaeth gychwynnol o'r cynllun brechu yn erbyn yr human papillomavirus (HPV) a ddechreuodd yn 2008.
Yn ôl yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau, mae cyfraddau canser ceg y groth 87% yn is ymhlith menywod a dderbyniodd y brechlyn yn 12 a 13 oed i gymharu â'r rhai nad oedd wedi'u brechu.
Dywed The Guardian fod y data hefyd yn awgrymu bod tua 17,200 yn llai o achosion o garsinoma ceg y groth - sydd yn medru datblygu i fod yn ganser - oherwydd y brechlyn.
Darllenwch y stori'n llawn yma.