COP26: Tsieina yn taro 'nôl yn erbyn beirniadaeth Biden
Mae Tsieina wedi taro 'nôl yn erbyn Arlywydd yr UDA Joe Biden wedi iddo feirniadu penderfyniad yr Arlywydd Xi Jinping i beidio â mynychu uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26.
Nid yw'r Arlywydd Xi wedi teithio’r tu allan i Tsieina ers dechrau pandemig Covid-19 a phenderfynodd beidio ymuno ag arweinwyr eraill gwledydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer y gynhadledd yn Glasgow.
Fe feirniadodd yr Arlywydd Biden arweinwyr Tsieina a Rwsia yn chwyrn am beidio â mynychu'r uwchgynhadledd ddydd Mawrth.
Ond wrth ymateb i'w sylwadau, dywedodd llefarydd gweinyddiaeth tramor Tsieina, Wang Wenbin, fod "Gweithredoedd yn golygu mwy na geiriau", yn ôl Al Jazeera.
Mwy ar y stori yma.
Llun: Rhwydwaith Newyddion Tsieina (CNN)