Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

03/11/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C ar fore Mercher, 3 Tachwedd.

Dyma gipolwg ar rai o straeon y bore.

Comisiynydd Plant Cymru yn galw ar y fyddin i stopio recriwtio aelodau dan 18 oed

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn galw ar y Fyddin Brydeinig i roi’r gorau i recriwtio pobl dan 18 oed. Mae ymchwil gan elusennau Forces Watch a Child Soldiers International, yn honni bod milwyr wnaeth ymuno â’r Fyddin yn 16 oed ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu lladd yn Affganistan na’r rhai wnaeth ymuno yn oedolion.

Angen ‘cymryd risg gydag awduron ifanc’ i wella amrywiaeth llyfrau Cymru

Mae angen "cymryd risg gydag awduron ifanc” i wella amrywiaeth llyfrau Cymru, yn ôl Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau. Dywedodd Helgard Krause wrth Newyddion S4C bod y diwydiant creadigol wedi bod yn “araf” wrth adlewyrchu'r amrywiaeth yng nghymdeithas Cymru.

Cleo Smith: Dod o hyd i blentyn pedair oed ar ôl wythnosau o fod ar goll yn Awstralia

Mae Cleo Smith, merch pedair oed, wedi ei darganfod yn “fyw ac yn iach” ar ôl diflannu o safle gwersylla yng Ngorllewin Awstralia dros bythefnos yn ôl. Daeth heddlu Awstralia o hyd i Cleo Smith mewn tŷ yn nhref Carnvon tua 01:00 bore dydd Mercher.

Haf poethaf Ewrop yn ‘amhosib’ heb gynhesu byd-eang

Haf 2021 oedd haf poethaf Ewrop ac yn ôl ymchwilwyr newid hinsawdd yw’r rheswm. Roedd y tymheredd eleni ar gyfartaledd tua 1° C yn uwch na'r cyfnod 1991-2020. 

O'r Awyren i'r Ambiwlans: Newid byd i ddynes o Sir y Fflint

Mae tywysydd hediadau awyren a gollodd ei swydd yn ystod y pandemig wedi newid trywydd gan ddechrau gweithio i'r Gwasanaeth Ambiwlans. Fe dreuliodd Sarah Goulding, o Gei Connah yn Sir y Fflint, 32 o flynyddoedd yn gweithio i gwmni awyrennau.

Dilynwch y datblygiadau diweddaraf drwy gydol y dydd ar wefan ac ap Newyddion S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.