Newyddion S4C

Cleo Smith: Dod o hyd i blentyn pedair oed ar ôl wythnosau o fod ar goll yn Awstralia

Sky News 03/11/2021
S4C

Mae Cleo Smith, merch pedair oed, wedi ei darganfod yn “fyw ac yn iach” ar ôl diflannu o safle gwersylla yng Ngorllewin Awstralia dros bythefnos yn ôl.

Daeth heddlu Awstralia o hyd i Cleo Smith mewn tŷ yn nhref Carnarvon tua 01:00 bore dydd Mercher.

Mae dyn o'r ardal wedi ei gadw yn y ddalfa.

Roedd Cleo Smith ar wyliau gwersylla gyda'i theulu tua 560 milltir i'r gogledd o Perth, pan ddiflannodd yn ystod oriau mân y bore 16 Hydref.

Yn ôl Sky News, roedd yr heddlu'n amau iddi gael ei chipio oherwydd bod sip y babell wedi'i godi i uchder na allai Cleo Smith ei gyrraedd.

Dywedodd mam Cleo ar y cyfryngau cymdeithasol bod y “ teulu yn gyfan unwaith eto”.

Darllenwch y stori'n llawn yma. 

Llun: Heddlu Awstralia 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.