Newyddion S4C

Angen ‘cymryd risg gydag awduron ifanc’ i wella amrywiaeth llyfrau Cymru

03/11/2021

Angen ‘cymryd risg gydag awduron ifanc’ i wella amrywiaeth llyfrau Cymru

Mae angen "cymryd risg gydag awduron ifanc” i wella amrywiaeth llyfrau Cymru, yn ôl Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau.

Dywedodd Helgard Krause wrth Newyddion S4C bod y diwydiant creadigol wedi bod yn “araf” wrth adlewyrchu'r amrywiaeth yng nghymdeithas Cymru.

Yn ôl y Cyngor, dydy “cyfansoddiad presennol y diwydiant llyfrau, fel llawer o ddiwydiannau creadigol eraill, ddim yn adlewyrchu ein cymdeithas yn ddigonol".

Daw hyn fel rhan o gynllun strategol y Cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf wrth i’r Cyngor Llyfrau ddathlu ei benblwydd yn 60 yr wythnos hon.

Cafodd yr elusen ei chreu yn 1961 gyda’r nod o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi llyfrau yng Nghymru a hyrwyddo darllen “er pleser".

Mae’r cyngor yn darparu gwasanaethau arbenigol i gyhoeddwyr ym meysydd golygu, dylunio, marchnata a dosbarthu ac yn cyd-weithio gyda chyrff fel Llenyddiaeth Cymru a’r Llywodraeth i gynnig grantiau.

Dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor, Helgard Krause mai’r prif nod yw gwella amrywiaeth ac “adlewyrchu yr hyn yw Cymru yn ei chyfanrwydd ac yn canu cloch gyda phawb.”

"Mae'r meysydd creadigol jyst angen amser i ddatblygu, a mae rhaid dweud 'dan ni wedi bod yn araf i neud yr ymdrech," meddai. 

"Dyna pam 'dan ni moen gweld tipyn bach o acceleration."

Image
Helgard Krause
Dywedodd Helgard Krause bod angen hybu mwy o amrywiaeth ym maes llenyddiaeth.

"'Dan ni moen fwy o bobl i fod yn awduron, i fod yn golygyddion, i wneud cyfraniad," ychwanegodd. 

Mae rhaid i ni ffeindio ffordd i ysbrydoli pobl a datblygu'r sgiliau ysgrifennu a cymryd tipyn bach o risg falle hefyd gyda awduron ifanc."

Dywedodd Helgard Krause ei bod wedi gofyn i weisg cyhoeddi ar draws Cymru os ydyn nhw wedi gwrthod llyfrau gan awduron o gefndiroedd ethnig.

Eglurodd: “Dw i wedi bod at weisg a gofyn iddyn nhw sawl llyfr ydych chi wedi troi lawr gan awdur o gefndir ethnig? A maen nhw’n dweud wrtha’ i, ‘dydyn ni ddim yn cael rhai.'”

Yn ogystal â gwella amrywiaeth, mae adfer o’r pandemig yn faes pwysig fel rhan o’r cynllun gan sicrhau dyfodol i’r siopau llyfrau lleol.

Dywedodd Helgard Krause: “Roedd y cyfnod clo cyntaf yn anodd gyda’r siopau ynghau. Ond fe ddaethon ni i arfer ac addasu.

“Roedden ni yn bryderus y byddai pobl yn parhau i siopa ar-lein. Ond dydy hynny ddim wedi digwydd,” ychwanegodd.

“Y gwir yw, dw i’n meddwl bod pobl eisiau dod nôl i’r siopau a chael amser i edrych ar gloriau llyfrau eto.

Image
Siop llyfrau
"Roedd y cyfnod clo yn anser anodd i siopau llyfrau"

“Mae’n bwysig bod ni’n cario 'mlaen i hyrwyddo siopau llyfrau a gwneud yn siwr bod pobl yn mwynhau dod er mwyn gweld yr amrywiaeth o lyfrau sydd ar gael.”

Mae’r argyfwng hinsawdd yn bwnc pwysig yn y cynllun strategol.

Gyda chynhadledd COP26 wedi cychwyn yr wythnos hon, mae’r cynllun yn amlinellu’r angen i “wneud mwy er mwyn cyrraedd statws digarbon".

Yn ôl y Cyngor, mae’r diwydiant "wedi dechrau datgarboneiddio ei gadwyn gyflenwi, ond mae angen gwneud mwy".

“Rydym wedi ymrwymo i wella ein perfformiad ymhellach gyda’r nod, yn y pen draw, o gyrraedd statws digarbon.

“Ar yr wyneb, gall cynnwys digidol ymddangos yn ddewis mwy cyfeillgar i’r amgylchedd na llyfrau a chylchgronau print ond mae rhai arbenigwyr cylch bywyd yn nodi bod yr egni, y dŵr a’r deunyddiau crai sydd eu hangen i wneud un e-ddarllenydd yn cyfateb i 40 i 50 o lyfrau, tra bod yr allyriadau a grëir gan un e-ddarllenydd yn gyfwerth â thua 100 o lyfrau.”

Mae’r Cyngor yn cynnal wythnos o ddathliadau wrth gyrraedd 60 mlynedd o waith gyda dau lyfr wedi eu cyhoeddi yn ogystal â’u strategaeth newydd.

Bydd ffilmiau byrion yn cael eu rhyddhau ddiwedd yr wythnos i ddathlu’r broses o greu a chyhoeddi llyfrau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.