Rhedwyr o Gymru’n fuddugol ym Marathon Eryri
Mae rhedwyr o Gymru wedi bod yn fuddugol ym Marathon Eryri ddydd Sadwrn.
Fe ddaeth Michael Kallenberg o Harriers Abertawe yn gyntaf yn ras y dynion mewn amser o 2:33:56 gydag Ifan Dafydd o Glwb Rhedwyr Meironnydd yn ail mewn amser o 2:35:45.
Ceri Merwood o glwb Rhedwyr CDF o Gaerdydd enillodd ras y menywod mewn amser o 2:58:47 gydag Emily Jones o glwb Le Croupiers yng Nghaerdydd yn ail mewn 3:07:52.
Roedd miloedd o redwyr wedi teithio I Lanberis a’r cyffiniau i gystadlu yn y ras oedd yn cael ei chynnal am y 41fed tro, ac yn cael ei ystyried yn un o’r marathonau ffordd fwyaf heriol y DU.