Mimi Xu yn cyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Tenis Agored Wrecsam
25/10/2025
Mae’r chwaraewr tenis o Abertawe Mimi Xu wedi cyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Agored Wrecsam.
Fe wnaeth Xu, sy’n 18 oed, guro Yuriko Miyazaki, hefyd o Brydain, yn y rownd gyn-derfynol brynhawn Sadwrn.
Fe enillodd Xu, sy’n 381 ar restr detholion y byd o 6-2, 4-6 a 6-2.
Fe fydd Xu nawr yn herio Mika Stojsavljevic hefyd o Brydain yn y rownd derfynol ddydd Sul.
Mae Xu hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol y dyblau ddydd Sul gyda'r phartner Ella McDonald.
Llun: LTA
