Newyddion S4C

Comisiynydd Plant Cymru yn galw ar y fyddin i stopio recriwtio aelodau dan 18 oed

ITV Cymru 03/11/2021
Sally Holland BaB

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn galw ar y Fyddin Brydeinig i roi’r gorau i recriwtio pobl dan 18 oed.

Yn ôl Sally Holland, mae’n fater o “hawliau dynol a hawliau plant".

“I fi, mae’r dystiolaeth yn glir, mae ’na ormod o risgiau i bobol ifanc pan maen nhw’n ymuno a’r fyddin yn 16 oed neu 17 oed," dywedodd.

“Maen nhw’n fwy debygol i gael eu lladd yn anffodus yn eu gyrfa ac maen nhw’n fwy tebygol o gael problemau gyda iechyd meddwl ac iechyd corfforol.”

Mae’r comisiynydd yn cyfeirio at ymchwil gan elusennau Forces Watch a Child Soldiers International, sy’n honni bod milwyr wnaeth ymuno â’r Fyddin yn 16 oed ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu lladd yn Affganistan na’r rhai wnaeth ymuno yn oedolion.

'Gadael cyn gorffen'

Mae Swyddfa’r Comisiynydd yn un o ugain corff hawliau dynol sydd wedi anfon llythyr at Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn erfyn arnyn nhw i ailystyried y system recriwtio.

“Mae un o bob tri o’r bobl ifanc yn gadael cyn gorffen yr hyfforddiant. Does (ganddyn nhw) ddim addysg, does dim cartref weithiau," ychwanegodd.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, roedd 22% o’r rheiny gafodd eu recriwtio i’r Fyddin y llynedd fel aelodau llawn amser dan 18 oed.

Mae dwy ran i’r hyfforddiant er mwyn dod yn aelod o’r Fyddin. Rhwng 2017 a 2020, mae cais rhyddid gwybodaeth gan raglen Y Byd ar Bedwar yn dangos bod 2,189 allan o 7,949 o recriwtiaid dan 18 oed wnaeth gwblhau’r rhan gyntaf o’u hyfforddiant wedi gadael y Fyddin cyn cwblhau’r ail ran - canran o 28%.

Y Deyrnas Unedig yw’r unig wlad yn Ewrop ac o fewn Cyfundrefn Gogledd yr Iwerydd, neu NATO, sy’n recriwtio pobl 16 oed i’w byddin.

Un o’r rheiny sy’n ysu am yrfa gyda’r fyddin yw Gethin Davies, 16, o Nebo, Dyffryn Nantlle. Ymunodd â chatrawd y Cymry Brenhinol ddeufis yn ôl.

“Dwi wedi bod eisiau ymuno â’r fyddin ers dipyn wan. Mae e wedi bod yn y teulu erstalwm, gyda fy wncwl, a dwi wedi hefyd wedi nabod hogia trwy’r cadéts. Mae hyn wedi bod yn dipyn o help efo’r penderfyniad," meddai.

Image
Fyddin BaB
Mae Gethin Davies o Ddyffryn Nantlle yn ysu am gael gyrfa gyda'r fyddin.

Tra bod nifer o’i ffrindiau wedi dychwelyd i’r chweched dosbarth ym mis Medi, fe deithiodd Gethin i Goleg Hyfforddi’r Fyddin yn Harrogate, Swydd Efrog. 

Ychwanegodd Gethin: “Dwi’n gwybod bod posibilrwydd i weld pethau erchyll, a dwi jyst yn trio peidio meddwl amdano fo fel bod o ddim yn stopio fi isio mynd a jyst trio cael fi ffwrdd oddi wrtho fo. 

“Dwi’n meddwl un diwrnod neith o ddod amdano fi, a just dod fatha realiti lly.”

'Mynd amdani'

Gyda bron i 47,700 o bobl rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru yn ddi-waith, mae Gethin yn cyfaddef bod y diffyg cyfleoedd yn ei ardal yn rheswm dros ymuno â’r fyddin.

“Does na’m rili llawar o ddim byd alla i neud rownd ffordd hyn. Os bod gen i ddiddordeb, ddyla fi fynd amdani dwi meddwl. Does na’m byd gwell rownd ffor’ hyn i fi’n bersonol," ychwanegodd.

Bu farw Sharon, mam Gethin, pan roedd e’n bum mlwydd oed. Wedi hynny, cafodd ei fagu gan chwaer ei fam, Andrea Vaughan Jones. Mae ei theimladau hi’n gymysg ynghylch ei benderfyniad i adael ei chartref i ddechrau gyrfa yn y Fyddin.

Dywedodd Ms Jones: “Dwi’n teimlo reit prowd bod o yn mynd i wneud rhywbeth fela, dio’m yn mynd i wastio’i amsar o gwmpas lle yn methu cael gwaith, so dwi’n hapus.

“Ond, dwi reit emosiynol amdano fo. Ma’ jyst meddwl amdano fo’n mynd mor ifanc...dwi jyst yn teimlo bo fi dal isio gafael ynddo fo, ond ‘na fo. Sori.”

Image
Fyddin BaB2
Cafodd Gethin ei fagu gan ei fodryb Andrea Vaughan Jones ers marwolaeth ei fam.

I Gethin, mae’n gobeithio bod gyrfa hir o’i flaen.

“Dwi’n gobeithio y bydda i yna am dipyn, a chael gyrfa yn yr Army.”

Dywedodd y Fyddin Brydeinig bod ganddynt gefnogaeth a thriniaeth iechyd meddwl cynhwysfawr ar gael i aelodau o’r Lluoedd Arfog yn ystod ac ar ôl eu gwasanaeth.

Mewn ymateb i’r ymgyrch diweddar, dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace,  nad yw recriwtio dan ddeunaw yn fater cyfreithiol, nac yn orfodol o fewn y lluoedd arfog.   

Fe ddywedon nhw fod y Gwasanaeth Iau yn darparu ystod o gyfleoedd hyfforddi rhagorol i bobol ifanc a mynediad at yrfa foddhaus.

Maent yn dweud bod diogelu recriwtiaid dan 18 - a phob recriwt - yn flaenoriaeth.

Bydd Y Byd ar Bedwar yn cael ei darlledu nos Fercher am 8:25yh ar S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.