Newyddion S4C

O'r Awyren i'r Ambiwlans: Newid byd i ddynes o Sir y Fflint

03/11/2021
Sarah Goulding

Mae tywysydd hediadau awyren a gollodd ei swydd yn ystod y pandemig wedi newid trywydd gan ddechrau gweithio i'r Gwasanaeth Ambiwlans.

Fe dreuliodd Sarah Goulding, o Gei Connah yn Sir y Fflint, 32 o flynyddoedd yn gweithio i gwmni awyrennau.

Mae hi bellach wedi ymuno â'r Gwasanaeth Ambiwlans fel Cynorthwyydd Gofal Ambiwlans.

Yn ystod y rhan helaeth o'r cyfnodau clo, nid oedd teithiau rhyngwladol yn cael eu caniatáu yng Nghymru er mwyn osgoi lledaenu amrywiolion newydd o'r feirws.

'Helpu pobl'

Penderfynodd Sarah, 54, i ail-hyfforddi gan ei bod wedi darparu cymorth cyntaf i nifer o deithwyr ar hyd y blynyddoedd.

Dywedodd: "Ges i yrfa wych (...) ac roeddwn yn ddigon ffodus i fod wedi teithio ar draws y byd.

"Roedd y gwasanaeth ambiwlans yn apelio i fi oherwydd yn gyntaf, roeddwn yn hoffi'r syniad o helpu pobl, ac yn ail, roeddwn yn hoffi'r syniad o fod allan yn y gymuned.

"Mae natur y diwydiant awyrennau yn golygu nad ydych chi byth mewn un lle am yn hir, ac roeddwn yn dymuno dal gafael yn yr elfen honno."

Mae Cynorthwywyr Gofal Ambiwlans wedi eu hyfforddi i drin a chludo cleifion â man anafiadau i'r ysbyty.

Maen nhw'n darparu cefnogaeth bywyd sylfaenol a throsglwyddiadau o gartref claf i'r ysbyty, neu rhwng ysbytai.

Ychwanegodd Sarah: "Rwyf wedi bod yn y rôl ers 12 mis bellach ac rwyf wir yn ei fwynhau.

"Bob dydd rydych yn dysgu rhywbeth newydd, ac mae helpu pobl yn eu hawr anghenus yn deimlad mor werthfawr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.