Gerwyn Price yn ennill pencampwriaeth dartiau Meistri Gwlad Pwyl
Mae’r Cymro Gerwyn Price wedi ennill pencampwriaeth dartiau Meistri Gwlad Pwyl.
Roedd yr ‘Iceman’ ar dân yn Gilwice nos Sadwrn, wrth iddo lwyddo i sgorio cyfartaledd o dros 100 ym mhob un o’i tair buddugoliaeth yn y gystadleuaeth.
Ar ôl trechu Sebastian Bialecki o 6 chymal i 3, fe aeth ymlaen i ennill yn gyfforddus o 6-2 yn erbyn Chris Dobey yn rownd y chwarteri,
Yna, fe lwyddodd y cyn-bencampwr y byd i ysgubo Rob Cross o’r neilltu yn y rownd gynderfynol drwy ennill 7-3.
Roedd y rownd derfynol yn erbyn Stephen Bunting yn gêm lawer iawn agosach, ond fe lwyddodd Price i sicrhau buddugoliaeth o wyth cymal i saith a hawlio’r darian.
Dyma oedd teitl cyntaf Price o’r flwyddyn, a’r tro cyntaf iddo gystadlu mewn rownd derfynol ers cynrychioli Cymru yn ffeinal Cwpan y Byd fis diwethaf.
Dywedodd Price wedi’r fuddugoliaeth ei fod wedi colli ei siwtces ar y daith drosodd i Wlad Pwyl.
“Fe gollais fy siwtces penwythnos yma. Dartiau newydd, esgidiau newydd, dillad newydd, a pherson newydd, felly dyma mi,” meddai.