Pymtheg o blant ymhlith 51 o bobl wedi eu lladd mewn llifogydd yn Texas
Mae swyddogion yn Texas yn yr UDA wedi cadarnhau fod o leiaf 51 o bobl wedi eu lladd gan gynnwys 15 o blant yn dilyn llifogydd sydyn yn y dalaith dros y diwrnodau diwethaf.
Mae 43 o bobl wedi marw yn sir Kerr ac mae 27 o blant yn dal ar goll o wersyll ieuenctid Cristnogol ar hyd Afon Guadalupe sydd i’r gogledd orllewin o ddinas San Antonio.
Dywedodd siryf Kerr Larry Leitha: "Mae'r gwaith yn parhau, a bydd yn parhau, nes bod pawb yn cael eu canfod.”
Mae tua 850 o bobl wedi cael eu hachub hyd yn hyn.
Dywedodd Llywodraethwr Texas, Greg Abbott, ei fod wedi llofnodi datganiad trychineb estynedig i hybu ymdrechion chwilio.
Ychwanegodd y byddai swyddogion yn ddi-baid wrth sicrhau eu bod yn dod o hyd i "bob person sydd wedi bod yn ddioddefwr yn y digwyddiad hwn", gan ychwanegu "byddwn yn stopio pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau".
Dywedodd swyddogion fod ymdrechion yn dal i fod yn canolbwyntio ar chwilio ac achub yn hytrach nag adfer.
Mae achubwyr yn mynd i fyny ac i lawr Afon Guadalupe i geisio dod o hyd i bobl a allai fod wedi cael eu hysgubo i ffwrdd gan y llifogydd.
Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump fod ei weinyddiaeth yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i ymateb i'r argyfwng.
Llun: Reuters