Haf poethaf Ewrop yn ‘amhosib’ heb gynhesu byd-eang
Haf 2021 oedd haf poethaf Ewrop ac yn ôl ymchwilwyr newid hinsawdd yw’r rheswm.
Roedd y tymheredd eleni ar gyfartaledd tua 1° C yn uwch na'r cyfnod 1991-2020.
Sisili yn yr Eidal oedd y lle y cofnodwyd y tymheredd uchaf yn Ewrop gyda’r tymheredd yn cyrraedd 48.8 °C.
Dywedodd gwyddonydd newid hinsawdd y Swyddfa Dywydd, Dr Nikos Christidis, a arweiniodd y gwaith ymchwil: “Mae'r astudiaeth ddiweddaraf hon yn enghraifft arall o sut mae newid yn yr hinsawdd yn achosi tywydd eithafol difrifol.
“Mae ein dadansoddiad o haf Ewropeaidd 2021 yn dangos y byddai’r hyn sydd bellach yn digwydd un mewn tair blynedd bron yn amhosibl heb newid hinsawdd sy’n cael ei ysgogi gan bobl. ”
Mae 200 o arweinwyr y byd wedi ymgynnull yng Nglasgow er mwyn trafod a phenderfynu sut i ddelio gyda newid hinsawdd yn uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 sy’n parhau tan 12 Tachwedd.