Newyddion S4C

Hawliau pysgota: Y DU yn gofyn am esboniad i ‘fygythiadau anghyfiawn’ Ffrainc

Sky News 29/10/2021
x

Mae’r DU wedi gofyn am esboniad gan lysgennad Ffrainc i fygythiadau “anghyfiawn” wrth i’r anghydfod dros hawliau pysgota ddwysáu.

Ddydd Mercher, cafodd dau berson o’r DU eu cosbi gan Weinidgoaeth Forol Ffrainc am bysgota oddi ar ei harfordir, yn ôl Llywodraeth Ffrainc.

Dyma’r digwyddiad diweddaraf yn yr anghydfod rhwng Ffrainc a’r DU dros hawliau pysgota yn dilyn y cytundeb Brexit.

Yn ôl Sky News, cafodd cyfarfod ei gadeirio gan y gweinidog Brexit, yr Arglwydd Frost ddydd Iau er mwyn ystyried ymateb Llundain.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Mae gweithredodd arfaethedig Ffrainc yn anghyfiawn a dydyn nhw ddim yn ymddangos i gydymffurfio gyda rhan yr UE gyda’r Cytundeb Masnach a Chydweithrediad na’r gyfraith ryngwladol ehangach.”

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.