Ffeiliau Epstein yn cynnwys e-bost gan 'A' yn gofyn am 'ffrindiau anaddas'

Ffeiliau Epstein

Mae ffeiliau Epstein eraill wedi eu cyhoeddi sydd yn cynnwys e-bost gan 'A' sy'n dweud bod nhw yn Balmoral ac yn gofyn wrth Ghislaine Maxwell am "ffrindiau anaddas".  

Dyma'r ffeiliau diweddaraf sydd wedi eu rhyddhau gan Adran Gyfiawnder America.

Cafodd yr e-bost ei anfon i Maxwell 16 o Awst 2001. Mae'n dweud, "Dwi fyny yma yng Ngwersyll Haf Balmoral y Teulu Brenhinol". Yn nes ymlaen mae'r e-bost yn dweud, "Sut mae LA? Wyt ti wedi dod o hyd i ffrindiau newydd anaddas i fi?" Mae'r e-bost yn gorffen gyda, "Welai ti, A xxx".

Castell Balmoral yw cartref gwyliau'r Teulu Brenhinol.

Dyw'r e-byst ddim yn awgrymu unrhyw ddrwg weithredu.

Mae'r cyn dywysog, Andrew Mountbatten-Windsor wedi gwadu gwneud unrhywbeth o'i le yn y gorffennol. 

11,000 o ffeiliau 

Mae hefyd wedi dweud nad oedd o wedi "gweld, bod yn llygad dyst nag amau unrhyw ymddygiad o'r fath wnaeth arwain at ei arestio (Epstein) a chael ei gyhuddo."

Cyfeiriad yr e-bost yw "abx17@dial.pipex.com" ac mae wedi dod gan berson sy'n cael ei gyfeirio ato fel "Y Dyn Anweledig". Mae'n rhan o'r 11,000 o ffeiliau sydd newydd gael eu rhyddhau.

Wrth ymateb i'r e-bost mae Maxwell yn dweud: "Mae'n ddrwg gennai dy siomi di. Ond mae'n rhaid bod yn onest. Dwi ond wedi gallu dod o hyd i ffrindiau addas."

Mae llun sydd wedi ei gyhoeddi o'r blaen yn dangos cyfeiriad e-bost arall - aace@dial.pipex.com - wedi ei rhestru dan lyfr cysylltiadau ffon Epstein gyda'r enw Dug Efrog wedi ei rhoi wrth ei ymyl.

E-bost arall 

Mae e-bost arall rhwng Maxwell ac "Y Dyn Anweledig" hefyd wedi ei gyhoeddi. Mae'r neges ym mis Chwefror 2002 yn trafod trip posib i Peru.

Mae'r e-bost wedi ei yrru ymlaen o gyfeiriad rhywun sydd yn cael ei enwi yn "Juanesteban Ganoza" ac yn awgrymu reidio ceffylau a chinio.

Mae hefyd yn dweud: "O safbwynt y merched...faint oed ydy o? Dwi'n amau y gwneith o ddarganfod rhywun yn fan hyn ond fe allwn ni drio."

Mae ateb yn dod gan "Y Dyn Anweledig". Mae'n dweud: "O ran y bwyd dwi'n hyblyg iawn ac fe wnâi'r hyn mae o wedi cynllunio...O ran y merched fe wnâi adael hynny yn llwyr i ti a Juan Estoban!" Mae'r e-bost yn gorffen gyda'r geiriau, "Llawer o gariad A xxx".

Ym mis Hydref fe gollodd Andrew Mountbatten-Windsor yr hawl i ddefnyddio'r teitlau tywysog neu Ddug Efrog wedi ei gysylltiad gyda'r pedoffeil Jeffrey Epstein.

Rhagfyr 19 fe basiodd Cyngres America gyfraith oedd yn dweud y byddai yr holl ffeiliau am Epstein yn cael eu rhyddhau. Dyw'r ffeiliau cyfan ddim wedi eu rhyddhau eto. 
 

Llun: Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.