'Dim penderfyniad terfynol ar ranbarthau' rygbi Cymru cyn y Nadolig

Cynhadledd i'r wasg gan Undeb Rygbi Cymru

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud na fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ynglŷn â sut i dorri'r rhanbarthau rygbi cyn y Nadolig.

Ym mis Hydref fe gyhoeddodd yr Undeb ei bwriad i leihau'r rhanbarthau rygbi o bedwar i dri.

Y nod oedd esbonio sut y byddai hyn yn digwydd cyn y Nadolig.

Ond maent erbyn hyn wedi dweud na fydd hyn yn digwydd ac y bydd trafodaethau yn parhau.

Yn ei neges ddiwedd y flwyddyn mae'r Prif Weithredwr Abi Tierney, y cadeirydd Richard Collier-Keywood a'r llywydd Terry Cobner wedi dweud mai'r "flaenoriaeth yw dod i gonsensws gyda'r clybiau proffesiynol os yw'n bosib.

"Tra ein bod ni wedi gobeithio rhoi sicrwydd cyn y Nadolig, mae wedi dod yn amlwg bod angen ychydig yn fwy o wythnosau i geisio cyrraedd ffordd ymlaen sydd wedi ei gytuno." 

Fis Hydref fe ddywedodd yr undeb y byddai yna un tîm wedi ei leoli yn ardal y brifddinas, un yn nwyrain Cymru a’r llall yn y gorllewin.

Clwb Rygbi Caerdydd 

Os na fydd yna gytundeb ym mis Ionawr fe allai proses dendr chwe mis ddigwydd er mwyn penderfynu ar y tri chlwb.

Mae'r undeb wedi cymryd rheolaeth o Glwb Rygbi Caerdydd ers mis Ebrill wedi i gorff cyfreithiol y clwb gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Ers hynny mae'r undeb wedi bod yn edrych am fuddsoddwyr i brynu Rygbi Caerdydd.

Mae perchnogion Y Gweilch, Y11 Sports and Media, wedi eu cysylltu gyda Rygbi Caerdydd sydd wedi golygu bod cefnogwyr Y Gweilch yn bryderus am ddyfodol y clwb. Mae cefnogwyr Caerdydd hefyd wedi dangos eu hanfodlonrwydd gyda'r posibilrwydd hyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mater arall sydd wedi dod i'r amlwg yw'r ffaith fod yr Undeb eisiau llais ynglŷn â phryd mae'r chwaraewyr yn chwarae ac mae hyn yn faen tramgwydd. Mae hefyd wedi golygu oedi yn y broses o benderfynu ar y rhanbarthau terfynol.

 


 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.