Breuddwyd Ewropeaidd Wrecsam ar ben ar ôl colli yn erbyn Riga

Wrecsam yn colli

Mae taith Wrecsam yng Nghynghrair Pencampwyr UEFA wedi dod i ben ar ôl iddyn nhw golli 4-1 yn erbyn Riga ar y Cae Ras.

Rhoddodd Lili Jones Wrecsam ar y blaen yn yr wythfed munud yn rownd derfynol y rownd ragbrofol gyntaf.

Cafodd Maria Francis-Jones gerdyn melyn am dacl wael yn y 44ain munud.

Aeth Wrecsam i’r egwyl ar y blaen, ond tarodd Riga yn ôl yn gryf yn yr ail hanner.

Peniodd Minami Oi gôl gyfartal i Riga yn y 50fed munud cyn i’r tîm o Latfia fynd ar y blaen bedwar munud yn ddiweddarach.

Ychwanegodd Riga ddwy gôl arall i sicrhau buddugoliaeth o 4-1 a lle yn ail rownd ragbrofol y gystadleuaeth.

Roedd 1,192 o gefnogwyr yn bresennol ar y Cae Ras.

Roedd Wrecsam wedi curo Pyunik 4-2 ddydd Mercher yn eu gêm Ewropeaidd gyntaf erioed.

Bydd Wrecsam bellach yn troi eu sylw at amddiffyn eu teitl yn Adran Premier Genero.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.