Martha Stewart yn dod yn gyd berchennog lleiafrifol Clwb Pêl Droed Abertawe
Mae'r cyflwynydd teledu o America Martha Stewart wedi dod yn gyd berchennog lleiafrifol Clwb Pêl Droed Abertawe.
Mae'r awdures a menyw fusnes, sy'n 84 oed, yn ymuno gyda'r rapiwr Snoop Dogg â'r pêl droediwr o Groatia, Luka Modric i fod yn gydberchnogion o'r clwb.
Ddydd Gwener roedd hi yn y stadiwm pêl droed pan wnaeth Abertawe guro Wrecsam.
Mae Stewart a Snoop Dogg yn ffrindiau ac yn cyflwyno sioe gyda'i gilydd o'r enw Martha & Snoop’s Potluck Dinner Party. Y bwriad yw bod selebs yn cymryd rhan mewn heriau coginio.
Ar wefan swyddogol y clwb mae Brett Cravatt a Jason Cohen, sef y perchnogion sydd gyda'r mwyaf o siâr yn y clwb wedi ysgrifennu neges sydd yn dweud:
"Dwi'n siŵr bod nifer ohonoch chi wedi gweld Martha Stewart ymhlith y rhai wnaeth fynychu (ddydd Gwener).
"Mae Martha yn ffrind agos i Snoop Dogg ac fe ddaeth hi i gêm Wrecsam fel ein gwestai.
"Ond mae'n bleser gennym ni gadarnhau bod Martha, sydd wedi creu gyrfa hir a llwyddiannus fel arbenigwr America gyda phethau'r tŷ a ffordd o fyw, wedi penderfynu dilyn Snoop a Luka Modric fel perchnogion lleiafrifol o'n clwb pêl droed ni."
Fe wnaethon nhw ychwanegu eu bod nhw yn "gyffroes i groesawu Martha" i'r clwb.