Newyddion S4C

'500 o fwledi' wedi eu darganfod ar set ffilm lle saethwyd gweithiwr yn farw

LA Times 27/10/2021
alec baldwin

Mae'r awdurdodau yn nhalaith New Mexico yn yr UDA wedi dweud eu bod wedi dod o hyd i 500 o fwledi ar set y ffilm 'Rust'.

Bu farw un o aelodau'r criw ffilmio ar ôl cael ei saethu'n farw wedi i'r actor Alec Baldwin danio dryll tra'n ymarfer ar gyfer golygfa.

Bu farw Halyna Hutchins, 42, yn dilyn y digwyddiad ac fe gafodd y cyfarwyddwr Joel Souza ei anafu ar 22 Hydref.

Dywedodd yr awdurdodau fod cymysgedd o fwledi 'byw' a bwledi ffug wedi eu darganfod, ond ei fod yn rhy gynnar i ddweud os bydd cyhuddiadau'n deillio o'r digwyddiad.

Dywedodd Sheriff Sirol Santa Fe Adan Mendoza mai dryll Colt 45 gafodd ei saethu gan Alec Baldwin.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.