Newyddion S4C

Alec Baldwin mewn 'sioc a thristwch' wedi marwolaeth cyd-weithiwr ar set ffilm

The New York Times 22/10/2021
alec baldwin

Diweddarwyd 17:27

Mae'r actor Alec Baldwin wedi disgrifio ei "sioc a thristwch" yn dilyn marwolaeth cyd-weithiwr ar set ffilm.

Bu farw Halyna Hutchins, 42, yn dilyn y digwyddiad ac fe gafodd dyn arall ei anafu ar ôl i’r actor saethu gwn prop yn nhalaith New Mexico. 

Dywed The New York Times fod Mr Baldwin wedi tanio’r arf wrth ffilmio ar gyfer y ffilm Rust.

Cafodd Mrs Hutchins ei hedfan i’r ysbyty mewn hofrennydd ond bu farw o’i hanafiadau. Mae’r dyn, y cyfarwyddwr Joel Souza, yn derbyn triniaeth frys. 

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol brynhawn dydd Gwener, dywedodd Mr Baldwin "nad oedd geiriau i gyfleu'r sioc a'r tristwch am y ddamwain drasig oedd yn gyfrifol am ddiweddu bywyd Halyna Hutchins, gwraig, mam a cyd-weithiwr yr oedd parch mawr tuag ati".

Ychwanegodd ei fod yn "cydymffurfio gydag ymchwiliad yr heddlu i geisio darganfod sut y bu i'r drasiedi ddigwydd.

"Mae fy nghalon wedi torri amdani, ei gŵr, eu mab a phawb oedd yn adnabod a charu Halyna", meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Baldwin y cafodd gwn ei gam-danio gyda chetrisen wag.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.