Cynghrair y Cenhedloedd: Siom i Gymru wrth golli yn erbyn Denmarc
Roedd siom i Gymru wrth golli 2-0 yn erbyn Denmarc yn Copenhagen yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Sul.
Roedd yna chwe newid i'r tîm a gollodd 1-0 yn erbyn Portiwgal nos Iau, gyda Charlie Savage yn un o'r newidiadau.
Roedd y ddau dîm yn gobeithio am eu buddugoliaeth gyntaf o'r ymgyrch wedi i Ddenmarc golli 3-2 yn erbyn Norwy nos Iau hefyd.
Hanner cyntaf
Daeth cyfle cynnar gyda chic rydd o du allan i'r cwrt cosbi ond fe wnaeth ymdrech Mikkel Damsgaard anfon y bêl yn llawer rhy bell ac i'r dorf y tu ôl i gôl Danny Ward.
Denmarc ddechreuodd ar y droed flaen, gyda'r mwyafrif o'r meddiant yn hanner Cymru.
Ond gydag amddiffyn Cymru yn dynn, roedd y tîm cartref yn cael eu gorfodi i chwarae'r bêl yn llydan.
Fe wnaeth Cymru lwyddo i dawelu'r dorf, gyda thîm Craig Bellamy yn cael cyfnod o feddiant a chyfle i ymosod yng nghwrt cosbi Denmarc.
Ond parhau i fygwth wnaeth Denmarc wrth i'r hanner fynd yn ei flaen, gydag ergydion gan Dorgu a Damsgaard o fewn munudau i'w gilydd.
Cafodd gôl gampus gan Isaksen i'r tîm cartref ei gwrthod wedi i Hojlund gamsefyll cyn croesi'r bêl i'r cwrt cosbi.
Roedd y cyfnod anodd yn parhau i Gymru gydag ergydiad gan Daamsgard yn taro'r postyn.
Cafodd Dorgu ei orfodi i adael y cae i'r tîm cartref yn sgil anaf, gyda Daramy yn dod ymlaen yn ei le.
Roedd yna welliant gan Gymru yn ymosodol gydag ergyd Sorba Thomas o du allan i'r cwrt cosbi yn dod yn agos at y gôl.
Daeth cyfle gwirioneddol i Gymru gyda chic rydd o safle addawol iawn ychydig y tu allan i'r cwrt cosbi wedi tacl gan Merhe ar Dan James.
Ond gwastraff oedd y cyfle gydag ergyd Brennan Johnson yn gwibio ymhell uwch ben y gôl.
Denmarc oedd â'r meddiant am y mwyafrif o'r hanner, ond fe orffennodd Cymru yr hanner cyntaf yn gryf.
Daeth cyfle i Gymru ar ôl 43 munud gyda Johnson yn croesi i ddarganfod Connor Roberts yn y cwrt cosbi gan orfodi arbediad da gan gôl-geidwad Denmarc, a dwy gic gornel yn mynd yn ofer i dîm Craig Bellamy yn ddiweddarach.
Parhau yn ddi-sgôr oedd yr hanes ar ôl 45 munud.
Ail hanner
Doedd dim newid i Gymru ar ddechrau'r ail hanner a thîm Craig Bellamy yn dechrau yn addawol.
Ond fe ddechreuodd y tîm cartref setlo i fewn i'r gêm, gyda chic rydd glyfar i fewn i'r cwrt cosbi gan Damsgaard yn arwain at gôl gan Hojlund, ac amheuaeth am gôl i'w rwyd ei hun gan Ben Davies. Denmarc 1 - 0 Cymru.
Daeth Cymru yn agos at ei gwneud hi'n gêm gyfartal gyda chroesiad Sorba Thomas yn mynd dros ben Kieffer Moore.
Ond fe wnaeth Neco Williams ildio cic rydd siomedig i'r tîm cartref ar ôl 66 munud. Er bod cliriad Kieffer Moore yn ddigon i atal yr ymdrech gyntaf, doedd dim am rwystro Isaksen rhag dyblu mantais Denmarc. Denmarc 2 - 0 Cymru.
Roedd dau newid i Gymru ychydig funudau yn ddiweddarach, gyda Lewis Koumas a Jordan James yn dod ymlaen ar gyfer Kieffer Moore a Dan James.
Roedd llygedyn o obaith i Gymru gyda symudiad a chroesiad da gan Jordan James at Connor Roberts yn gorfodi arbediad gan gôl-geidwad Denmarc.
Er gwaethaf ambell gyfle i Gymru wrth i'r gêm dynnu tuag at ei therfyn, colli 2-0 oedd eu hanes gyda goliau ail hanner y tîm cartref yn selio'r fuddugoliaeth i Ddenmarc.
Fe fydd yn rhaid i Gymru anghofio am y golled ac edrych ymlaen at y gêm nesaf o'r ymgyrch yn erbyn Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau.
Bydd tîm Craig Bellamy yna yn wynebu Denmarc unwaith yn rhagor dridiau yn ddiweddarach gartref.
