Newyddion S4C

'Methiant Ysgubol': Ymateb y gwrthbleidiau i'r Gyllideb

27/10/2021
JD Mack

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyfeirio at Gyllideb y Canghellor Rishi Sunak fel "methiant ysgubol."

Cyhoeddodd y Canghellor ddydd Mercher y bydd £2.5bn yn ychwanegol yn mynd i goffrau cyllid blynyddol Llywodraeth Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r Yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn derbyn arian drwy fformiwla Barnett ac yn penderfynu ar beth fydd yr arian yn cael ei wario.

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud?

Yn ôl Mark Drakeford, "methiant ysgubol" yw Cyllideb Rishi Sunak.

Dywedodd Mark Drakeford fod y "pwysau yn fwy nag erioed" o ystyried "realiti caled i wasanaethau cyhoeddus, busnesau a theuluoedd ledled y DU".

Mae Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru wedi dweud y Gyllideb "yn cynnwys bylchau amlwg yn y cyllid lle nad yw San Steffan wedi buddsoddi yng Nghymru."

Ychwanegodd: "Nid yw'r Adolygiad o Wariant hwn gan Lywodraeth y DU wedi cyflawni dros Gymru. Mae blaenoriaethau cyllid hanfodol – fel adfer safleoedd tomenni glo yn y tymor hir a mwy o gyllid ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd – wedi cael eu hanwybyddu’n llwyr."

"Mae’r Adolygiad o Wariant yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ariannol inni yn y tymor canolig ac ychydig o fuddsoddiad ychwanegol, ond mae hyn yn cael ei wrthbwyso’n llwyr gan y pwysau rydyn ni’n ei wynebu yn y system ac yn sgil chwyddiant," dywedodd.

"Nid yw’r Gyllideb yn llwyddo i gwrdd â maint yr her sy’n wynebu teuluoedd, gwasanaethau cyhoeddus a’r economi yn ehangach o ganlyniad i’r pandemig."

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb ei hun ar 20 Rhagfyr eleni.

Beth mae Plaid Cymru yn ei ddweud?

Roedd Plaid Cymru wedi dweud ei bod am weld mesurau penodol i fynd i'r afael â chostau byw, yr hinsawdd a swyddi. 

Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Mercher, dywedodd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville-Roberts fod y Canghellor wedi "methu" â chyflwyno "cyllideb drawsnewidiol fyddai yn rhoi arian ym mhocedi pobl yn  y tymor byr a hir a pholisïau uchelgeisiol fyddai yn gosod esiampl fyd-eang cyn COP26". 

Mae arweinydd y blaid, Adam Price, wedi disgrifio arweinyddiaeth y llywodraeth fel "neoryddfrydiaeth rhad". 

Beth am y Democratiad Rhyddfrydol?

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar y Canghellor i roi tynnu cladin wrth wraidd y Gyllideb, yn ogystal â galw am drethi nwy er mwyn cefnogi trosglwyddiad i economi werdd. 

Mewn ymateb brynhawn ddydd Mercher, fe alwodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds am weld y manylion yn llawn. 

"Beth sydd wir ei angen yw cynnydd mewn pwerau yma yng Nghymru ac mewn cymunedau lleol er mwyn sicrhau fod cyllid ychwanegol yn cael ei wario mewn ffordd sy'n darparu'r budd orau i bobl Cymru," meddai. 

Ychwanegodd ei bod yn bryderus am effaith toriadau i gredyd cynhwysol, y cynnydd mewn yswiriant gwladol, ac fe alwodd am eglurder am y cynllun rhifedd 'Multiply' gan fod addysg yn fater datganoledig i Gymru. 

Gallwch ddarllen y manylion am gynnwys y Gyllideb i Gymru yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.