Newyddion S4C

Y Gyllideb: Addewid o '£2.5 biliwn yn ychwanegol' i Gymru

27/10/2021

Y Gyllideb: Addewid o '£2.5 biliwn yn ychwanegol' i Gymru

Mae'r Canghellor Rishi Sunak wedi amlinellu'r arian fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wario yn araith y Gyllideb yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.

Cyhoeddodd y byddai £2.5bn yn ychwanegol yn mynd i goffrau cyllid blynyddol Llywodraeth Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r Yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn derbyn arian drwy fformiwla Barnett ac yn penderfynu ar beth fydd yr arian yn cael ei wario.

Dywedodd y Canghellor: “Mae hon yn gyllideb ar gyfer y DU gyfan. Rydyn ni wedi canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl Prydain - iechyd eu hanwyliaid, mynediad at wasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf, swyddi ar gyfer y dyfodol a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

“Mae £ 2.5 biliwn ychwanegol y flwyddyn yng nghyllid Barnett yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu’n dda i gyflawni eu holl gyfrifoldebau datganoledig tra bydd pobl Cymru hefyd yn elwa o ymrwymiad y Llywodraeth hon i lefelu cyfle a chyflawni ar gyfer pob rhan o’r DU.

“Rydym yn parhau i hybu diwydiant a swyddi a gwella seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.”

'Methiant ysgubol'

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mae'r gyllideb yn "fethiant ysgubol".

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mr Drakeford: "Mae’r Canghellor yn sôn am “oes o optimistiaeth” – gwrthgyferbyniad llwyr â’r realiti caled i wasanaethau cyhoeddus, busnesau a theuluoedd leded y DU."

'£120m i 10 prosiect'

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart: “Mae hon yn gyllideb wych i Gymru, gan sicrhau buddsoddiad sylweddol yn uniongyrchol i bobl, busnesau a chymunedau ledled y wlad.

“Bydd y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn derbyn ei setliad mwyaf erioed fel y gall ddarparu ei gwasanaethau hanfodol fel iechyd, addysg a diogelu llifogydd, tra bydd Cymru’n elwa’n llawn o lawer o’n mesurau ledled y DU gan gynnwys rhewi dyletswydd tanwydd ac alcohol, y cynnydd yn yr isafswm cyflog i filoedd o weithwyr a buddsoddiad mewn parciau a chyfleusterau chwaraeon."

Ychwanegodd Mr Hart: “Mae lefelu cymunedau ledled y DU ar frig ein hagenda. Mae buddsoddi mwy na £120m mewn 10 prosiect gan gynnwys adfywio glan y môr Aberystwyth a gwella cysylltiadau trafnidiaeth yn Rhondda yn dangos sut y byddwn yn cyflawni'r uchelgais hon ledled Cymru.

“Ochr yn ochr â chyllido Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, mae’r mesurau hyn ac eraill yn yr Adolygiad o Wariant yn adio i becyn rhagorol i Gymru a’i heconomi.”

Image
Ty'n Llan
Mae tafarn Ty'n Llan yn Llandwrog yn un o'r cynlluniau fydd yn elwa drwy'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. 

Mae'r 10 cynllun fydd yn derbyn cyfanswm o £120m yn cynnwys adfywio Traphont Ddŵr Pontcysyllte, ailddatblygu Canolfan Gelf Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu, adfywio rhan o Gamlas Maldwyn yng ngogledd Powys, ac adfywio'r Hen Goleg a'r Marina yn Aberystwyth.

Mae'r arian hefyd ar gyfer ail-agor Canolfan Gelf Muni ym Mhontypridd, trawsnewid Castell Hwlffordd yn atyniad pob tywydd, sefydlu Hwb Caerfyrddin ac adeiladu Hwb Cludiant Porth yn y Rhondda.

Fe fydd tri chynllun yng Nghymru hefyd yn derbyn arian drwy’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol: £250,000 i fenter tafarn gymunedol Ty'n Llan, Llandwrog; £124,258 i ganolfan hyfforddi CANA , Pen-y-Waun a £90,000 i neuadd ddawnsio'r Queen's, Tredegar.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi croesawu'r buddsoddiad ar gyfer adfywio Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth a'r Marina. Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn ein heconomi leol a fydd yn helpu i wella dyheadau hirdymor Aberystwyth a chanol y dref trwy sicrhau buddsoddiad mewn seilwaith economaidd ac asedau a fydd yn helpu i lywio cyfleoedd am swyddi, sgiliau, buddsoddiad mewnol a hamdden.

"Rhaid hefyd diolch i'n holl bartneriaid a’r gymuned leol am eu holl ymdrech a’u cefnogaeth wrth sicrhau fod y cynnig yn gryf, ac yn y pendraw, yn llwyddiannus. Ochr yn ochr â datblygiadau posibl eraill yn y sir a ledled Canolbarth Cymru gyda Bargen Dwf Canolbarth Cymru, mae yna lawer yn digwydd yng Ngheredigion. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r Llywodraeth a rhanddeiliaid ar bob lefel i wireddu gwir botensial y buddsoddiad hwn.”

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw i’w groesawu’n fawr iawn ac yn newyddion da iawn i Aberystwyth a Cheredigion. Mae hefyd yn gam pwysig arall tuag at wireddu’r weledigaeth i drawsnewid yr Hen Goleg yn ganolfan ddiwylliannol fyrlymus sydd yn cynnig adnoddau rhagorol i’r Brifysgol, y gymuned leol ac ymwelwyr i’r ardal.”

Image
Rishi Sunak
Y Canghellor Rishi Sunak yn gadael Rhif 10 i fynd i Dŷ'r Cyffredin i gyhoeddi'r gyllideb.
Llun: @RishiSunak

Wrth annerch Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher, dywedodd Rishi Sunak bod "misoedd heriol o'n blaenau."

Dywedodd y Canghellor: "Dydy Cyllideb heddiw ddim yn tynnu llinell dan Covid ac mae gennym fisoedd heriol o'n blaenau.

"Ond mae'n dechrau ar y gwaith ar yr economi ar ôl Covid."

Dywedodd y Canghellor bod Llywodraeth y DU yn gweithio i wneud "y gorau y gallan nhw" wrth ddweud bod chwyddiant wedi cyrraedd 3.1% ym mis Medi, gyda disgwyl iddo gynyddu ymhellach i 4%.

Beth mae'r Canghellor wedi ei gyhoeddi sy'n benodol i Gymru?

Bydd cyllideb Llwyodraeth Cymru yn cynyddu o £2.5bn. 

Mae'r gyllideb yn cynyddu bob blwyddyn, ond yn ôl y Canghellor, dyma'r bloc grant mwyaf i'r llywodraethau datganoledig dderbyn ers y setliad datganoli yn 1999.

Dywedodd hefyd y bydd cyllid ar gyfer rhanbarth Dinas Caerdydd yn "cyflymu."

Mae Rishi Sunak wedi cyhoeddi bod Cymru yn cael £120m ar gyfer prosiectau cysoni gwariant, gyda De Clwyd yn un o'r 100 o ardaloedd ar hyd y DU fydd yn elwa.

Bydd Camlas Sir Drefaldwyn yn brosiect fydd yn derbyn bron i £16m er mwyn ail agor rhan o'r gamlas.

Cyhoeddodd y Canghellor y bydd prosiect Multiply yn cael ei lansio i ddatblygu sgiliau rhifedd "ar draws y DU", ond mae'n aneglur sut fydd y cynllun yn cael ei weithredu yng Nghymru gan fod addysg yn faes datganoledig.

Mae'r Canghellor eisoes wedi dweud y bydd mwy o gefnogaeth ariannol i fusnesau bach yng Nghymru gyda chronfa newydd gwerth £130 miliwn ar gyfer busnesau bach yng Nghymru.

Mae hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn cynyddu'r Cyflog Byw Cenedlaethol o £8.91 yr awr i £9.50 ar gyfer pobl dros 23 oed.

Mae hyn yn golygu y gallai gweithwyr ennill £1,000 yn ychwanegol y flwyddyn o fis Ebrill 2022.

Bydd cronfa o £130 miliwn yn cael ei dosbarthu drwy'r Banc Busnes Prydeinig ar gyfer busnesau bach yng Nghyrmu, ond mae Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) eisoes wedi dweud nad yw'r buddsoddiad hwn yn ddigon ar ei ben ei hun.

Beth yw'r ymateb?

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi dweud bod y Gyllideb yn "fethiant ysgubol".

Disgrifiodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price arweinyddiaeth Llywodraeth y DU fel "neoryddfrydiaeth rhad". 

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds ei bod yn "bryderus" am sawl elfen o'r cyhoeddiad, gan gynnwys effaith toriadau i gredyd cynhwysol a chynnydd mewn yswiriant gwladol.

Darllenwch yr holl ymatebion yn llawn i gyhoeddiad y Canghellor yma.

Llun: Trysorlys y DU

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.