Apêl o'r newydd yn dilyn marwolaeth merch chwe mis oed
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i wrthdrawiad a achosodd marwolaeth baban chwe mis oed yn Llanelli yn apelio am wybodaeth o'r newydd.
Mae'r heddlu'n gobeithio siarad gydag unrhyw un a fedrai fod â deunydd camera cylch cyfyng neu gamera gloch y drws yn y cyfnod cyn y digwyddiad.
Bu farw Eva Maria Nichifor yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng BMW cyfres 3 glas a Vauxhall Vectra glas ger cyffordd Heol Goffa tua 21:00 nos Wener, 8 Hydref.
Mae ei theulu wedi ei disgrifio fel "merch fach berffaith" wrth dalu teyrnged iddi ddydd Mawrth.
Mae swyddogion nawr yn gofyn i breswylwyr a busnesau i gysylltu os oes ganddynt ddeunydd fideo ym maes parcio Eastgate, Stryd Andrew Llanelli a Corporation Avenue ger yr orsaf dân.
Mae galwad hefyd am unrhyw ddeunydd o gamera dashfwrdd yn yr ardaloedd hyn rhwng 20:40 a 21:00 ar noson y gwrthdrawiad.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth, deunydd fideo, neu luniau a fedrai fod o ddefnydd i gysylltu â nhw gan gyfeirio at gyfeirnod DP-20211008-415.